Pabi ar grysau: Cyfaddawd FIFA
- Cyhoeddwyd

Bydd chwaraewyr Cymru ond yn cael gwisgo pabi ar eu crysau wrth gynhesu ar gyfer y gêm yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae FIFA, y corff rheoli pêl-droed rhyngwladol, wedi gwrthod caniatâd i Gymru a Lloegr wisgo'r pabi ar eu crysau yn y gemau y diwrnod cyn Sul y Cofio.
Bydd Cymru'n dangos y pabi ar eu crysau ymarfer cyn y gêm gyda'r neges "Cymru'n Cofio - Wales Remembers".
Dywedodd FIFA y byddai negeseuon o'r fath yn "peryglu niwtraliaeth pêl-droed".
Ond mewn cyfaddawd munud olaf, dywedodd FIFA y byddai'r chwaraewyr yn cael gwisgo rhwymyn braich du gyda llun pabi arno.
Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai dyna fyddai'r chwaraewyr yn ei wneud yn ystod y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd y mudiad hefyd y byddai'r chwaraewyr yn mynd i wasanaeth cofio arbennig am 11:00 ddydd Gwener.
Mae rheolau FIFA yn gwahardd gwisgo unrhyw beth o natur wleidyddol ar grysau ac er nad yw'n ystyried y pabi fel rhywbeth gwleidyddol, mae'n pryderu y bydd yn creu cynsail ar gyfer symbolau eraill allai fod yn ddadleuol.
'Biwrocrataidd'
Roedd cyn arweinydd Llafur, yr Arglwydd Kinnock, wedi dweud nad oedd cyfiawnhad dros wrthod caniatau gwisgo'r arwydd o gofio i chwaraewyr Cymru a Lloegr.
"Mae dau dîm o Brydain sy'n cystadlu'r penwythnos hwn am wisgo'r pabi a does dim cyfiawnhad synhwyrol o safbwynt FIFA, un o'r cyrff mwyaf biwrocrataidd a chlogyrnaidd sy'n fwrn ar y byd."
Dywedodd FIFA na ddylai crysau ddangos negeseuon gwleidyddol, crefyddol na masnachol.
"Byddai gweithred fel hon yn agor y drws i weithredoedd tebyg ar draws y byd ...," meddai.