Gweinidog Iechyd: Rhybudd am dargedau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd y bydd perfformiad gwael yn golygu canlyniadau difrifol.
Roedd Lesley Griffiths yn annerch cynhadledd flynyddol Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd fod angen i fyrddau iechyd "gyrraedd targedau ariannol a pherfformiad llym".
Yn y cyfamser, mae arolwg ar ran byrddau iechyd wedi awgrymu bod pobl yn barod i dderbyn newidiadau sylweddol i'w hysbytai lleol os oedd ansawdd y gofal yn gwella.
Nododd arolwg YouGov fod 61% o gleifion yn barod i deithio ar gyfer gwell gofal iechyd arbenigol.
Ond roedd y mwyafrif yn erbyn canolbwyntio gwasanaethau mewn llai o ysbytai mwy.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y gweinidog newidiadau sylweddol i'r Gwasanaeth Iechyd.
Ddim yn cau
Mae'r gweinidog wedi dweud na fydd ysbytai cyffredinol rhanbarthol yn cau nac yn cael eu hisraddio.
Ond mae hi wedi cyfadde' y gallai cleifion deithio ychydig yn bellach i gael y driniaeth orau.
Dywedodd y conffederasiwn fod yr arolwg yn awgrymu bod pobl yn derbyn bod 'na ddewisiadau anodd yn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae'r mwyafrif o bobl yn dal i wrthwynebu canolbwyntio gwasanaethau mewn llai o ysbytai mwy ac yn dadlau y dylai'r ysbytai lleol gynnig pob math o wasanaeth.
Ond doedd cleifion a holwyd ddim yn gwrthwynebu teithio ar gyfer gofal arbenigol os oedd yn golygu ansawdd gwell.
"Mae'r gwrthwynebiad yn erbyn newid, yn benodol gan wleidyddion, wedi ei seilio ar y dybiaeth na fydd y cyhoedd yn ei dderbyn," meddai Cyfarwyddwr y Conffederasiwn, Helen Birtwhistle.
'Cam sylweddol'
"Ond mewn gwirionedd, mae'n gwbl glir bod pobl yn credu y dylai eu hysbytai lleol gynnig pob math o wasanaeth iechyd, er enghraifft, yn barod i dderbyn newid os ydi hyn yn gwella ansawdd a diogelwch.
"Mae'n gam sylweddol ac fe fydd yn cynorthwyo'r Gwasanaeth Iechyd i gyflawni eu cyfrifoldeb i ddangos, lle mae'r newidiadau yn cael eu cynnig, y bydd hyn ar sail tystiolaeth glinigol a barn arbenigwyr."
Dywedodd hefyd fod pobl yn cydnabod gwerth gofal yn agos i'w cartref ac o fewn cymunedau lleol.
"Mae hyn yn tanlinellu'r angen i ganfod ffyrdd newydd a pellgyrhaeddol i gynnig gwasanaethau iechyd y tu allan i ysbytai lle mae hynny'n addas."
Dywedodd Yr Athro Marcus Longley, economegydd iechyd ym Mhrifysgol Morgannwg, fod yr arolwg yn awgrymu'r angen am arweiniad uwchlaw newidiadau i'r ddarpariaeth iechyd ac i berswadio'r cyhoedd nad dim ond rhywbeth i arbed arian oedd hyn.
"Mae'r rheolwyr iechyd, sy'n cael eu cynrychioli gan y conffederasiwn yn teimlo'n aml nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth angenrheidiol i wneud y newidiadau y mae gwleidyddion yn gofyn yn aml," meddai.
"Wrth i ni wynebu'r chwech mis nesa gyda newidiadau gweddol ddadleuol, fe fydd newidiadau yn cael eu cyflwyno ac os na fydd 'na gefnogaeth wleidyddol fe fydd yn frwydr anodd yn enwedig os ydi rhai yn emosiynol am gadw eu hysbytai lleol."
Cafodd Arolwg YouGov ei gynnal ar-lein gyda 1,004 o oedolion yn cael eu holi rhwng Hydref 27 a Thachwedd 1.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd21 Medi 2011