Pedwar yn dianc o dân
- Cyhoeddwyd

Cafodd pedwar person eu hachub o dân mewn tŷ ger Caernarfon fore Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yng Nghwm y Glo am 2:20am.
Credir mai nam trydanol mewn uned yng nghyntedd y tŷ oedd achos y tân.
Llwyddodd dau oedolyn a dau blentyn i ddianc o'r tŷ teras drwy'r drws cefn.
Achoswyd peth difrod i'r tŷ gan fwg.