Arestio wedi marwolaeth yn 2004

  • Cyhoeddwyd
Colette DaviesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Colette Davies yn 2004

Mae'r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth - saith mlynedd wedi i fenyw gwympo yn India.

Roedd Colette Davies o Ben-y-bont ar Ogwr yn 39 oed pan ddisgynnodd ger pont dros Afon Giri yn Gaura yn nhalaith Himachal Pradesh ym mis Chwefror 2004.

Roedd yno ar wyliau gyda'i gŵr.

Yn wreiddiol, fe ymchwiliodd heddlu yn India cyn penderfynu nad oedd amgylchiadau amheus.

Fe gludwyd corff Mrs Davies yn ôl i Brydain cyn ei hangladd yn Amlosgfa Llangrallo ym mis Mawrth 2004.

Yn ddiweddarach fe deithiodd ditectifs o Heddlu'r De i India, gan ailymchwilio gyda Heddlu Himachal Pradesh.

Bore Iau, wedi adolygiad tîm ymchwilio arbenigol, fe gafodd dyn 50 oed ei arestio.

Mae'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ond yn byw ym Milton Keynes.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: "Er fy mod yn ystyried yr arestio'n ddatblygiad positif yn yr ymchwiliad, rwy hefyd yn apelio am unrhyw wybodaeth am amgylchiadau'r farwolaeth.

"Mae teulu Colette wedi cael gwybod am yr arestio ac yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu."