Prif Weinidog yn agor canolfan ynni
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi agor Canolfan Ynni sy'n werth £6 miliwn ar gampws Llangefni Coleg Menai ar Ynys Môn.
Yn y ganolfan mae rhai o'r technolegau, offer a chyfleusterau carbon isel gorau yn y Deyrnas Unedig.
Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn helpu sicrhau bod Ynys Môn ar flaen y gad o ran darparu sgiliau i gefnogi'r sector ynni.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i'r adeilad a defnyddiwyd y technolegau carbon isel diweddaraf i'w adeiladu.
'Fforddiadwy'
Yn y lansiad dywedodd Mr Jones fod y ganolfan yn rhan bwysig o ddymuniad Ynys Môn i fod yn 'ynys ynni':
"Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol mwyaf sy'n wynebu'r blaned.
"Mae dyfodol ein lles materol a'n lles cymdeithasol yn dibynnu ar lwyddo i gyflenwi digon o ynni carbon isel fforddiadwy.
Pan aeth i'r gogledd am y tro cynta fel Prif Weinidog Cymru, meddai, fe gafodd gyfle i drafod gyda Choleg Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a chynrychiolwyr y diwydiant ynni.
"Mae'r ganolfan wedi'i chwblhau ac mae'n barod i chwarae rhan bwysig iawn yn llwyddiant menter yr Ynys Ynni.
"Mae gan hyn, yn ogystal â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru fod yr ynys nawr yn Barth Menter, y potensial i drawsnewid yr economi leol.
"Ar un adeg roedd Cymru ar flaen y gad gydag ynni carbon. Ein nod yw bod ar flaen y gad gydag ynni carbon isel hefyd.
"Mae tipyn o her i'r agenda hon ond mae'n gyffrous ac yn hanfodol. Bydd y ganolfan yn sicrhau bod gennym bobl fedrus a thalentog ar gael i weithio yn y sector ynni pwysig hwn yng ngogledd-orllewin Cymru a thu hwnt."
'Unigryw'
Yn yr agoriad swyddogol dywedodd Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Menai: "Un o'r rhai cyntaf i weld seiliau'r ganolfan yn cael eu gosod oedd Prif Weinidog Cymru ac roedd yn briodol ein bod yn ei groesawu'n ôl i weld y prosiect wedi cael ei wireddu.
"Mae economi'r byd wedi newid llawer ers iddo ymweld â ni gyntaf ac mae'n bwysicach nag erioed fod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen i gystadlu am swyddi mewn unrhyw sector.
"Fodd bynnag, mae'r ganolfan hon yn unigryw gan ei bod yn gallu darparu sgiliau a hyfforddiant i'r diwydiant ynni carbon isel.
"Mae hyn yn hanfodol yn ein heconomi gan fod potensial gan y sector i greu twf sylweddol yn lleol ac yn genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod."
'Cyfleoedd'
Bydd y ganolfan yn cynnal cyrsiau arbenigol er mwyn hyfforddi pobl ifanc i weithio yn y diwydiant ynni.
Dywedodd Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn: "Mae'r Ganolfan Ynni yn dangos y weledigaeth wirioneddol a'r ymrwymiad sydd gan Coleg Menai i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n codi o orsaf ynni niwclear bresennol yr Wylfa, adeilad niwclear newydd cwmni Horizon a phrosiectau Ynys Ynni ehangach.
"Mae Coleg Menai yn brif bartner yn Rhaglen Ynys Ynni Môn ac mae hwn yn gam mawr ymlaen i'r Coleg, gan arwain y gwaith o ddarparu sgiliau ynni yng Ngogledd Cymru a thu hwnt."
Niwclear
Dywedodd Jean Llywellyn OBE, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer y Sector Niwclear: "Mae'r Ganolfan Ynni newydd yn gyfleuster rhagorol i ddarparu cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a bydd yn chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo dysgwyr lleol i ddilyn llwybr gyrfa esmwyth i'r sector niwclear.
"Bydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiau weldio a saernïo haearn sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu niwclear yng Ngorsaf Ynni'r Wylfa sydd gerllaw a hefyd, ar gyfer y prosiect ynni niwclear newydd hefyd.
"Bydd cyfleusterau'r ganolfan ar gael i ni allu cynnig ein gwasanaethau reit ynghanol gweithgareddau niwclear Gogledd Cymru."
Hefyd bydd y ganolfan yn gartref i gyfleusterau weldio a saernïo mwyaf modern Cymru.
Bydd yno hefyd adran arloesi busnes a chyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2011
- 12 Hydref 2011
- 10 Ionawr 2011
- 10 Awst 2010
- 18 Mehefin 2010