Ymosodiad anweddus: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Roedd yr ymosodiad am 2:15am fore Sadwrn
Mae'r heddlu yn Abertawe, sy'n ymchwilio i ymosodiad anweddus ar fenyw 23 oed, wedi arestio dyn 44 oed.
Digwyddodd yr ymosodiad am 2.15am fore Sadwrn, Tachwedd 5, yn Stryd Westbury.
Roedd y fenyw yn cerdded i gyfeiriad Heol Walter pan ddaeth dyn ati ac ymosod arni.
Fe gafodd dyn ei holi yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Dylai tystion neu rywun sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011