Heddlu: Cymro wedi marw mewn ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi dweud eu bod yn credu bod dyn o Gymru wedi marw mewn ffatri ym Mryste.
Cafodd yr heddlu eu galw i ffatri siocled Fry's Cadbury am 5.30pm brynhawn Mercher wedi adroddiad am farwolaeth sydyn ar y safle.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi bod ar y safle wedi'r ddamwain gyda Jac-Codi-Baw.
Oherwydd pryderon am ddiogelwch y gwasanaethau brys, nid oedd yn bosib cael y corff allan nos Fercher ond llwyddwyd i wneud hynny ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod y dyn yn ei ugeiniau hwyr neu dridegau cynnar a'i fod yn hanu o Gymru.
Yn y cyfamser, mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio wedi i weithiwr ddisgyn o siop fawr.
Roedd y dyn yn ei chwedegau o dde Cymru yn aelod o griw oedd yn adnewyddu hen siop Debenhams yng nghanol Caerwysg.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.30pm nos Fercher a bu farw'r dyn yn yr ysbyty.