Gostwng nifer y gwelyau yn Ysbyty Tregaron
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y gwelyau mewn ysbyty yn y canolbarth wedi gostwng o 19 i 12 am nad oes digon o nyrsys ar gael.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod wedi gostwng y nifer o gleifion sy'n cael eu derbyn i Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion am fod 'na ostyngiad ariannol ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd llefarydd fod y bwrdd wedi dibynnu ar nyrsys sy'n gweithio i asiantaeth a bod y rheiny yn gorfod teithio i Dregaron o du allan i'r ardal.
Ychwanegodd fod y sefyllfa honno'n anfoddhaol a bod y bwrdd yn adolygu'r sefyllfa drwy'r amser.
Staff asiantaeth
"Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn fwyfwy ddibynnol ar staff asiantaeth i sicrhau bod lefelau staffio diogel yn Ysbyty Tregaron am fod prinder staff ar hyd y Deyrnas Unedig," meddai.
"Nid yw hi'n foddhaol i ddibynnu ar staff asiantaeth sy'n gorfod teithio o du allan i'r ardal.
"Felly mae nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty wedi eu gostwng i sicrhau bod gofal parhaus diogel yn cael ei ddarparu gan y staff sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2005
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2005