Apêl wedi i gar droi drosodd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl damwain ffordd oedd yn golygu bod gyrrwr car yn yr ysbyty.
Aed â'r ddynes leol i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ger safle'r ddamwain.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lôn ddwyreiniol yr A48 yng Nghaerdydd wedi i gar droi drosdd toc wedi 3.30pm ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar y lôn ddeuol o dan gylchdro Gabalfa.
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod a thraffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd ffordd ymadael.
Un car oedd yn ddamwain, car Ford Ka glas.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion neu unrhywun welodd y car cyn y ddamwain ac wedi diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd adeg y tagfeydd.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101 yn lleol neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.