Llenor wedi cynnig ymprydio â Gwynfor

Pennar Davies Image copyright Other
Image caption Pennar Davies: Llenor yn bennaf yn ei ail iaith, y Gymraeg

Mae llyfr newydd am y diwinydd a'r llenor Pennar Davies yn datgelu iddo gynnig ymuno â Gwynfor Evans yn ei ympryd dros sefydlu sianel Gymraeg.

Dyma un o nifer o ffeithiau yn y gyfrol Saintly Enigma gan y Parch Ivor T Rees.

Cafodd Pennar Davies sef William Thomas Davies o Aberpennar, Cwm Cynon, ei eni yn fab i löwr tlawd ar Dachwedd 12, 1911.

Mae dwy gyfrol wedi cael eu cyhoeddi i nodi canmlwyddiant ei eni, Saintly Enigma a chyfieithiad Saesneg o'i gyffeslyfr, Cudd fy Meiau, The Diary of a Soul gan y diweddar Barch Herbert D Hughes.

Bu farw'r Parch Hughes ychydig fisoedd cyn cyhoeddi'r gyfrol, sy'n cynnwys rhagarweiniad Archesgob Caergaint, Rowan Williams, sy'n ei ddisgrifio fel "un o leisiau mawr Cristnogaeth ddiwygiedig ein cyfnod".

Roedd Mr Rees a'r diweddar Herbert Hughes yn gyn-fyfyrwyr i Pennar Davies yng Ngholeg Undeb yr Annibynwyr pan oedd y coleg enwadol yn Aberhonddu.

Mae Saintly Enigma yn cyfeirio at Pennar Davies, y darlledwr a'r darlithydd Meredydd Evans a'r academydd a'r awdur Ned Thomas yn diffodd mast deledu Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin yn anghyfreithlon yn 1979 fel rhan o'r ymgyrch dros sefydlu Sianel Gymraeg.

Fe wnaeth hyn helpu perswadio Gwynfor Evans fod rhaid iddo weithredu dros ymgyrch y sianel ac fe benderfynodd yn 1980 gyhoeddi y byddai'n ymprydio hyd farwolaeth pe na bai Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn newid eu meddwl ac yn sefydlu sianel Gymraeg.

'Hollol allweddol'

Fe arweiniodd cyhoeddiad Gwynfor Evans at newid meddwl yn hydref 1980 ac at sefydlu S4C ddwy flynedd yn ddiweddarach.

"Rwy'n gwybod i 'Nhad gynnig ymuno gyda Gwynfor yn ei ympryd," meddai Owain Pennar, mab ieuenga' Pennar Davies.

"Roedd e'n credu fel Gwynfor fod sefydlu sianel yn hollol allweddol i ddyfodol yr iaith Gymraeg a bod ymprydio yn ffordd ddi-drais hollol gyfiawn dros ymgyrchu i sicrhau bod y llywodraeth yn newid eu meddwl.

"Ac roedd e'n gallu cyfiawnhau'r fath weithred am ei fod yn gredwr mawr yn y dulliau di-drais o weithredu a ddefnyddiodd Mahatma Gandhi.

"Yn gam neu'n gymwys, roedd 'Nhad yn credu y byddai'n gallu perswadio nifer o arweinwyr crefyddol eraill yng Nghymru i ymuno i hybu ymgyrch Gwynfor."

Dywedodd fod Gwynfor yn gwerthfawrogi'r cynnig ond yn teimlo y dylai weithredu ar ei ben ei hun.

Ymateb cymysg

"Yn y pen draw, fe dalodd hyn ar ei ganfed ac fe brofwyd Gwynfor yn iawn," meddai.

Mae Saintly Enigma yn sôn am yr ymateb cymysg gafodd Pennar Davies i'w weithred ym mast Pencarreg gan Gristnogion eraill, gan gynnwys pobl o'r un enwad ag ef.

"Roedd yn gyfnod anodd i ni fel teulu ac yn enwedig i fy mam oedd wedi ei magu yn Almaenes o dras Iddewig o dan y Natsïaid ac yn poeni yn naturiol beth fyddai canlyniad herio awdurdod," meddai Owain Pennar.

Mae'r llyfr hefyd yn cyfeirio at hanes Pennar Davies pan oedd yn brifathro coleg yn Aberhonddu pan oedd Ivor T Rees yn fyfyriwr yno yn y 1950au.

Holl hanes

Mae'r gyfrol yn gofnod o'i holl hanes - o'r bachgen ysgol disglair a gafodd ei noddi gan Americanes gyfoethog, Mrs Fitzgerald, i fynd i'r coleg.

Astudiodd y Clasuron a Saesneg yng ngholegau prifysgol yng Nghaerdydd, Rhydychen ac Yale yn yr UDA - diolch i nawdd Mrs Fitzgerald.

Image copyright Other
Image caption Pennar Davies gyda'i fab Meirion

Ond pan ddaeth yn heddychwr adeg y rhyfel, penderfynodd Mrs Fitzgerald ddod â'r nawdd i ben ac fe benderfynodd Pennar Davies gefnu ar fywyd academia Saesneg i fod yn weinidog Cristnogol ac ymhen hir a hwyr yn hanesydd eglwys, diwinydd a llenor yn bennaf yn ei ail iaith, y Gymraeg.

Mae Achesgob Caergaint wedi dweud bod cyfieithiad Herbert Hughes o gyffesion Pennar Davies yn ei gyfnod yn Aberhonddu yn gyfle i gynulleidfa ddi-Gymraeg gael blas ar waith "un o leisiau mawr Cymru yng nghanol yr 20fed Ganrif".

Fe gafodd Cudd fy Meiau ei gyhoeddi yn wreiddiol yn ddienw ym mhapur enwadol yr Annibynwyr, Y Tyst, yn y 1950au.

"Mae gennym gyfle yma i ddod i nabod un o leisiau mawr Cristnogol ein hoes - llais mwyn a allai hefyd fod yn finiog, dyn oedd yn rhoi sylw craff i'r aelwyd a bywyd lleol a'r domestig ond sydd ganddo hefyd weledigaeth fyd-eang," meddai'r Archesgob.

"Yn anad dim, dyma ddyn sy'n mynegi ei gred drwy gariad at Dduw ac at gyd-ddyn, ac a fu'n gweithio'n egnïol inni gael gweld y goleuni mewnol yn disgleirio yn ein calonnau."

Saintly Enigmaa The Diary of a Soul, Gwasg y Lolfa (£9.95 yr un).

Straeon perthnasol