Sebastien Loeb ar y blaen yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Sebastien Loeb sy'n arwain Rali Prydain yng Nghymru wedi'r diwrnod agoriadol.
Dyma ras olaf pencampwriaeth y byd a chyn belled a bod y Ffrancwr yn gorffen o flaen Mikko Hirvonen fo fydd yn ennill y bencampwriaeth.
Eiliad y tu ôl i Loeb yn y Citroën yw Hirvonen yn y Ford.
Petai Loeb yn ennill, fe fydd yn cipio'r goron am y wythfed tro.
Roedd y tri chymal cyntaf eleni yng ngogledd Cymru, y tro cyntaf i'r rali fod yn y gogledd ers sawl blwyddyn.
Llandudno a Chlocaenog oedd lleoliadau'r rasio ddydd Iau.
Doedd y ras ddim wedi bod ar Y Gogarth er 1981 nac yng Nghlocaenog er 1996.
Amodau
Roedd 'na ddechrau dramatig ar Y Gogarth wrth i Sebastien Ogier yn y Citroën gael damwain ar y gornel gynta mwy neu lai.
Bu'n rhaid iddo ymddeol o'r ras ond mae 'na bosibilrwydd y gallai ddechrau yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Gwener.
Llwyddodd i ddatgymalu olwyn ar ei gar ar y gornel gyntaf.
Fe wnaeth Petter Solberg ddifrodi cefn ei Citroën wrth daro'r ochr y ffordd ond roedd yn llai o ddifrod nag yr oedd y gŵr o Norwy wedi ei dybio.
Mae rhai o'r gyrwyr wedi cwyno am yr amodau.
Yn benodol yr hyn sydd wedi ei ddweud yw bod y gyrwyr cyntaf i daclo coedwig Clocaenog wedi gwneud hynny yng ngolau dydd.
Yn fuan wedi'r trydydd neu bedwerydd car adael fe wnaeth y golau wanhau, y niwl yn codi a'r mwd yn cynyddu.
Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i'r gweddill.
Roedd 77 o geir wedi dechrau'r rali ar Y Gogarth ac mae ganddyn nhw 350 o filltiroedd i'w gwneud cyn y byddan nhw'n gorffen y cyfan yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Yn ystod y dydd daeth y newyddion bod y rali yn mynd i ddychwelyd i Gymru'r flwyddyn nesaf.