Llwyddiant i lyfrgelloedd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae tair o lyfrgelloedd Cymru ymhlith yr 20 uchaf o ran llyfrgelloedd cyhoeddus y DU.
Dyma'r tro cyntaf ers sawl blwyddyn i lyfrgelloedd Cymru fod ar y rhestr am y nifer o lyfrau sy'n cael eu dosbarthu.
Y tair llyfrgell yw Caerdydd Canolog, Abertawe Canolog a Llanelli.
Dywedodd Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth Cymru, Huw Lewis, ei fod yn croesawu ystadegau diweddaraf y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
Mae'r ystadegau yn dangos fod llyfrgelloedd Cymru yn perfformio'n well nag yn rhannau eraill o'r DU mewn sawl maes.
Mae'r ystadegau, a ryddhawyd yn ddiweddar am 2010-11, yn dangos bod 'na gynnydd yn nifer y rhai sy'n ymweld â llyfrgelloedd o 0.9%, o 14,717,000 i 14,850,000.
Cymru yw'r unig un o'r pedair gwlad i weld cynnydd.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod hyn yn adlewyrchu'r bartneriaeth barhaol rhwng y llywodraeth ac awdurdodau lleol o ran buddsoddi mewn moderneiddio ein llyfrgelloedd cyhoeddus.
Fe wnaeth nifer y benthycwyr gynyddu yn ogystal o 8.3% o 681,000 i 737,000.
"Mae hyn yn newyddion da i lyfrgelloedd yng Nghymru," meddai Mr Lewis.
"Yn ystod fy ymweliadau â llyfrgelloedd ar draws Cymru, rwy wedi cael fy synnu gan yr ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sy'n cael eu cynnig ac mae'r ystadegau hyn gan CIPFA yn adlewyrchu fy mhrofiad.
"Gyda lansiad ein Strategaeth pedair-mlynedd Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli a gafodd ei lansio yn gynharach yr wythnos hon, mae'n dangos ein bod ni ar y trywydd cywir i wneud llyfrgelloedd yn fwy hygyrch ac arloesol i annog pobl i'w defnyddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2010
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2010
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2010