Gohirio dedfrydu llofruddwyr Ben a Catherine Mullany
- Cyhoeddwyd

Roedd disgwyl i'r ddau ddyn a gafwyd yn euog o lofruddio cwpl o dde Cymru ar eu mis mêl yn Antigua gael ei dedfryd ddydd Gwener.
Ond mae'r achos wedi cael ei ohirio tan Ragfyr 8fed.
Roedd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, yn dod o Bontardawe.
Cafodd y ddau eu saethu ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27 2008.
Cafwyd Kaniel Martin, 23 oed, ac Avie Howell, 20 oed, yn euog o'i llofruddio mewn achos llys a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf.
Gall Martin wynebu'r gosb eithaf ond roedd Howell yn rhy ifanc i wynebu'r gosb eithaf pan gafodd Mr a Mrs Mullany eu lladd.
Adroddiadau seiciatryddol
Dyma oedd y pedwerydd tro iddyn nhw ymddangos yn y llys ers iddyn nhw eu cael yn euog.
Cafodd y dedfrydu ei ohirio ym mis Hydref tra bod adroddiadau seiciatryddol wedi ei gwblhau.
Cafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu mewn bwthyn ar ynys Antigua bythefnos ar ôl iddyn nhw briodi.
Wythnosau yn unig ar ôl y briodas yn Eglwys Cilybebyll ger Pontardawe fe gafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys.
Cafwyd Martin a Howell yn euog hefyd o lofruddio Woneta Anderson, siopwraig ar yr ynys, o dan amgylchiadau tebyg iawn.
Yn gynharach yn y mis clywodd cwest yn Abertawe fod Mr a Mrs Mullany wedi eu gorfodi i benlinio wrth ymyl eu gwely yng ngwesty Cocos cyn iddyn nhw gael eu saethu yn eu pennau.
Cofnododd y cwest reithfarn o ladd anghyfreithlon ar y ddau.
Clywodd y cwest for trigolion eraill y gwesty wedi clywed sgrechfeydd a sŵn saethu am 5am.
Galwyd yr heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i Catherine Mullany yn farw, a'i gŵr Ben wedi ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd ei gludo adre' i Gymru ond bu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.
Lladrad
Dywedodd y Cwnstabl Emma Warner, a fu'n cysuro teuluoedd Ben a Catherine yn ystod y drasiedi, wrth y cwest, eu bod nhw'n "ddioddefwyr diniwed".
"Bu'n rhaid i'r ddau benlinio wrth ymyl eu gwely cyn cael eu saethu.
"Daeth yr heddlu o hyd i getris y gwn a ddefnyddiwyd ar lawr yr ystafell, ac roedd difrod i ddrws yr ystafell 'molchi lle'r oedd wedi cael ei gicio.
"Roedd y sêff ar agor ac roedd swm o arian, camera digidol a dau ffôn symudol wedi eu dwyn oddi yno."
Ar ddiwedd yr achos llys ym mis Gorffennaf dywedodd yr erlynyddion y byddan nhw'n "neilltuo dyfarniad" a fyddan nhw'n galw am y gosb eithaf.
Yn sgil y digwyddiadau dywedodd y Prif Weinidog Baldwin Spencer, bod y llofruddiaethau yn fygythiad "i ffordd o fyw Antigua" gan ychwanegu y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth lymach i erlyn y rhai sy'n defnyddio gwn neu gyllell mewn trosedd sy'n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.
Ond dydi'r gosb eithaf ddim wedi ei weithredu ar yr ynys ers y 1990au.
Wedi ymyrraeth gan y Cyfrin Gyngor yn Llundain yn 2000 mae'n rhaid i bob cosb eithaf yn Antigua gael eu gweithredu o fewn pum mlynedd o'r euogfarn.
Ond mae'r achosion apêl o hyd yn cymryd mwy o amser na hynny.
Straeon perthnasol
- 1 Tachwedd 2011
- 26 Medi 2011
- 28 Gorffennaf 2011
- 22 Gorffennaf 2011
- 21 Gorffennaf 2011
- 21 Gorffennaf 2011
- 7 Gorffennaf 2011
- 6 Mehefin 2011
- 3 Mehefin 2011
- 23 Mai 2011