Merch Vincent Price yn ymweld â gwyl Abertoir

Vincent Price Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ganwyd Vincent Price 100 mlynedd yn ôl

Un o uchafbwyntiau gŵyl ffimiau arswyd flynyddol yn Aberystwyth yw ymweliad Victoria Price, merch yr actor Vincent Price.

Mae hi'n siarad ar ddiwrnod olaf Abertoir, gŵyl sydd yn cael ei chynnal am y chweched flwyddyn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Dywedodd hi ei bod yn gobeithio perswadio cefnogwyr ffiilm fod cyfraniad ei thad yn fwy nag ochr dywyll ei rhannau arswydus.

Mae hi hefyd am ddysgu mwy am dras Gymreig ei thad wrth ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae rhai o ffilmiau arswyd enwog Vincent Price wedi cael eu dangos yn ystod yr ŵyl.

Hefyd bydd ffilm newydd, Devil's Bridge, yn cael ei dangos am y tro cyntaf dros y penwythnos.

Cafodd ei ffilmio mewn gwahanol lefydd yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd a Sir Benfro.

Mae'r ŵyl yn gorffen ddydd Sul, Tachwedd 13.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.