Cwmni adeiladu: Dirwy o £4,000
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni toi yng Ngogledd Cymru yn gorfod talu dirwy o £4,000 wedi iddynt gyfaddef nad oeddent wedi rhoi gwybod i'r awdurdodau priodol am ddamwain lle cwympodd gweithiwr oddi ar do ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.
Clywodd Llys yr Ynadon Yr Wyddgrug nad oedd Mark Timothy Cain , 23 oed o Frychdyn, wedi gallu gweithio ers iddo dorri dau asgwrn yng ngwaelod ei gefn wedi iddo gwympo oddi ar do garej tŷ yng Ngorffennaf 2009.
Cyfaddefodd Hawarden Roofing Services nad oeddynt wedi gwneud adroddiad am y ddamwain
Cyfaddefodd y cwmni hefyd nad oeddynt wedi sefydlu rhagofalon addas pan gwblhaodd perchennog y cwmni, Peter James Dodd, waith ffeltio'r garej.
Rheoliadau gweithio
Yn ogystal â thalu'r ddedfryd o £4,000 fe fydd rhaid i'r cwmni dalu costau o £2,500
Dywedodd yr erlynydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Will Gretton, fod y gweithiwr wedi cwympo tua saith troedfedd a phedair modfedd oddi ar do'r garej.
Ond honnodd Andrew Bartley ar ran yr amddiffyn fod y gweithiwr wedi cwympo chwe throedfedd a dwy fodfedd.
Er hynny cytunodd yr erlyniad a'r amddiffyn fod rheoliadau gweithio ar uchder mewn grym.
Clywodd y llys for Mr Dodd a Mr Cain wedi mynd i ail-ffeltio to garej yng Nghwrt Madeley ym Mrychdyn.
Aeth Mr Dodd i brynu nwyddau a thra roedd e'n absennol aeth Mr Cain ar y to cyn cwympo oddi arno.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty yng Nghaer lle cafodd ei drin am anafiadau i waelod ei gefn.
Mynd i'r wal
Nid yw Mr Cain wedi gweithio ers hynny ac mae e'n derbyn budd-dal anabledd.
Clywodd y llys y gallai'r rhagofalon addas wedi cael eu gosod am lai na £400.
Dywedodd Mr Bartley fod Mr Dodd wedi bod yn weithiwr toi ers 30 mlynedd ac nad oedd wedi cael yr un ddamwain yn y cyfnod hwnnw.
Honnodd Mr Dodd ei fod wedi dweud wrth Mr Cain na ddylai fynd ar y to ond ei fod wedi gwneud hynny ar ei liwt ei hun.
Cyfaddefodd Mr Dodd nad oedd wedi adrodd am y damwain am nad oedd yn gwybod fod rhaid iddo wneud hynny.
Ychwanegodd Mr Dodd fod y cwmni bellach wedi mynd i'r wal oherwydd y dirwasgiad yn y diwydiant adeiladu.