Cyhuddiad o ymgais i lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad honedig yn y ddinas.
Ni chyflwynodd Mohammed Jamal Ali, 23 oed o Gaerdydd, ble ond fe gadarnhaodd ei enw, oedran a chyfeiriad drwy gyfieithydd Arabeg.
Doedd dim cais am fechnïaeth ac fe fydd gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ar Dachwedd 21.