BA: Canolfan newydd yn Saint Athan?

  • Cyhoeddwyd
Awyren BAFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae BA yn cyflogi mwy na 1,000 o bobl yn eu canolfan cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd.

Mae British Airways yn ystyried ehangu eu gweithgarwch cynnal a chadw yng Nghymru gan greu canolfan newydd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Mae BBC Cymru ar ddeall fod y ganolfan arfaethedig yn un o nifer o opsiynau sydd yn cael eu hystyried wrth i'r cwmni gynllunio ar gyfer mwy o waith y flwyddyn nesaf.

Mae BA eisoes yn cyflogi mwy na 1,000 o bobl yn eu canolfan cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd.

Dywed y cwmni nad oedd penderfyniad wedi ei wneud hyd yn hyn.

Nifer o opsiynau

Ond cadarnhaodd BA fod cynllun cynhwysedd yn cael ei ystyried oherwydd y bydd mwy o waith yn cael ei wneud yng Nghaerdydd yn 2012.

"Rydyn ni'n falch iawn o'n gweithredoedd peirianneg yn Ne Cymru sy'n cyflogi mwy na 1,000 o bobl leol," meddai llefarydd ar ran BA.

"Rydyn ni'n ystyried nifer o opsiynau i gynyddu ein cynhwysedd oherwydd ein rhaglen waith yn ein canolfan cynnal a chadw yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf."

Bu miloedd o beirianwyr awyrennau'r Awyrlu yn gweithio yng nghanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Saint Athan.

Mae gwaith cynnal a chadw yn dal i gael ei gynnal ar awyrennau VC10 yr Awyrlu ond y digwyl yw i'r gwaith hwn ddod i ben ym mis Chwefror.

Cynllun atgyweirio

Ar hyn o bryd mae yna dair elfen i'r gwaith sy'n cael ei gynnal yn Saint Athan.

  • Ysgol Hyfforddiant Technegol ar gyfer peirianyddion yr Awyrlu.
  • Grŵp cynorthwyol i unedau milwrol arbennig.
  • Gwaith cynnal a chadw ar awyrennau VC10.

Yn 2009 cafodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ac awdurdodau Cymreig eu beirniadu gan Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru wedi iddynt ganfod fod cynllun atgyweirio awyrennau yn Saint Athan wedi costio £113m ac wedi methu â chreu miloedd o swyddi.

Dechreuodd cynllun Y Ddraig Goch yn 2000 gyda'r nod o foderneiddio cyfleusterau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Saint Athan ac adeiladu awyrendy gwerth £77m i atgyweirio awyrennau'n gyflym.

Ac ym mis Hydref y llynedd cafodd cynllun i greu academi hyfforddi gwerth £14 bn fyddai wedi creu 2,000 o swyddi ei ddileu fel rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri'r gyllideb amddiffyn o 8%.

Ar y pryd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y penderfyniad wedi "bradychu pobl Cymru".

Ond dywedodd David Cameron ar y pryd y byddai opsiynau eraill yn cael eu hystryried.

"Nid yw hyn yn ddiwedd y daith i Saint Athan," meddai wrth Aelodau Seneddol.

Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai mwy o aelodau'r awyrlu yn cael eu lleoli yn Saint Athan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol