Crusaders newydd yn cael lle mewn cynghrair

Y Cae Ras Image copyright Not Specified
Image caption Bydd Crusaders Gogledd Cymru yn chwarae eu gemau ar Y Cae Ras yn Wrecsam

Bydd clwb rygbi 13 a ffurfiwyd yn dilyn tranc tîm Super League y Crusaders yn chwarae yng nghynghrair Co-Operative Championship One y tymor nesaf.

Enw'r tîm newydd, a grëwyd gan gonsortiwm o fusnesau a chefnogwyr, fydd Crusaders Gogledd Cymru.

Mae'r Gynghrair Rygbi XIII (RFL) wedi cadarnhau lle'r clwb wedi iddyn nhw gymeradwyo cynllun busnes y clwb newydd.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gynghrair, Nigel Wood: "Maen nhw wedi cwrdd â'r holl feini prawf i gael bod yn aelodau o'r RFL.

"Mae amseru'r datblygiad yn berffaith ddeuddydd cyn i Gymru chwarae Awstralia ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad yn Wrecsam."

Scorpions De Cymru

Bydd Crusaders Gogledd Cymru yn ymuno gyda chlwb arall o Gymru - Scorpions De Cymru - ar drydydd lefel strwythur rygbi 13 yr RFL.

Fe wnaeth y Crusaders gwreiddiol dynnu nôl eu cais am drwydded Super League ym mis Gorffennaf oherwydd pryderon ariannol.

Eu bwriad oedd ffurfio clwb newydd dan berchnogaeth newydd, ond daeth ergyd i'r cynllun hwnnw pan wrthodwyd eu cais i ymuno gyda'r Bencampwriaeth.

Fe gawson nhw wahoddiad i ymuno â Championship One.

'Achub y clwb'

Dywedodd Jamie Thomas, sy'n arwain y consortiwm newydd: "Rydym wrth ein bodd o fedru achub y clwb ac mae'n glod i'r cefnogwyr am eu cefnogaeth ddiysgog drwy gyfnod anodd dros ben.

"Mae cymaint o waith wedi ei wneud i ddatblygu'r gêm yn y gymuned, fe fyddai wedi bod yn wastraff llwyr petai'r gwaith yn ofer.

"Mae gogledd Cymru wedi cofleidio rygbi 13 ac mae'r cefnogwyr wedi cymryd y gamp at eu calonnau.

"Dyma wawr ar ddyfodol cadarn i'r gêm yn y rhanbarth."

Bydd y clwb yn chwarae eu gemau cartref ar y Cae Ras yn Wrecsam wedi iddyn nhw gyrraedd cytundeb gyda pherchnogion y stadiwm, Prifysgol Glyndŵr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.