Pledio'n euog o achosi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi cyfaddef gyrru â gormod o alcohol yn ei waed pan achosodd farwolaeth ei bartner mewn damwain ffordd.
Plediodd Phillip Hall, o Lôn yr Orsaf, Yr Wyddgrug, yn euog o achosi marwolaeth Lisa Hill, mam 39 oed, trwy yrru Volvo yn ddiofal ar ffordd yr A5118 yn Padeswood ym mis Chwefror.
150 oedd lefel yr alcohol yn ei waed - y lefel gyfreithiol yw 80.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Hall wedi honni ei fod wedi yfed pedwar can o lager ar ôl y ddamwain, ond ni wnaeth yr erlyniad dderbyn hynny.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod angen gwrandawiad tystiolaeth a gohiriodd yr achos.