Rali: Loeb yw pencampwr y byd

  • Cyhoeddwyd
Sebastien LoebFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sebastien Loeb yn bencampwr byd am yr wythfed tro

Daeth drama, a choroni pencampwr byd ar ail ddiwrnod Rali Cymru GB ddydd Gwener.

Cyn dechrau'r ras roedd y Ffrancwr Sebastien Loeb ar frig y bencampwriaeth gyda 222 o bwyntiau. Yr unig yrrwr fyddai'n medru ei basio oedd Mikko Hirvonen gyda 214.

Roedd Hirvonen wedi cael dechrau da i'r diwrnod, gan ennill cymalau 5 a 6 i arwain y ras.

Ond ar gymal Dyfnant, cymal 7, fe darodd yn erbyn bonyn coeden ar ôl colli rheolaeth o'i Ford Fiesta.

Roedd y difrod i reiddiadur y car cynddrwg fel nad oedd yn medru cyrraedd dechrau'r cymal nesaf, a bu'n rhaid iddo dynnu allan o'r ras yn gyfan gwbl.

Mae hynny'n golygu fod Loeb wedi cael ei goroni'n bencampwr byd am yr wythfed tro'n olynol - record ryfeddol.

'Llithrig'

Dywedodd Hirvonen o'r Ffindir: "Mae hi drosodd yn sicr.

"Rhaid i mi ddiolch i'r tim am ymdrech dda iawn a'u cymorth. Yn anffodus rhaid i ni nawr edrych i'r dyfodol.

"Roeddwn i'n teimlo'n dda. Roedd ambell ffordd lithrig ond roeddwn ni'n dal yn medru gwthio. Mae'r rali galed ac fe allwch chi gael eiliadau fel yna."

Sebastien Loeb yn ei Citroen DS oedd y cyflymaf ar gymalau 4 a 7 ddydd Gwener, ac mae'n arwain y ras o 1.1 eiliad o Jari-Matti Latvala, hefyd o'r Ffindir.

Latvala oedd y cyflymaf ar gymalau 8, 10 ac 11 yn ei Ford Fiesta.

Gyrrwr arall Ford, Mads Ostberg o Norwy sy'n drydydd, ond mae yntau ymhell dros funud yn arafach na'r ddau uchaf.

RALI GB CYMRU - y diweddaraf :-

1. Sebastien Loeb (Ffrainc) - Citroen DS3 - 1 awr 23 munud 18.3 eiliad

2. Jari-Matti Latvala (Ffindir) - Ford Fiesta - 1:23:19.4

3. Mads Ostberg (Norwy) - Ford Fiesta - 1:24:31.8

1. Sebastien Loeb - 222 pwynt

2. Mikko Hirvonen - 214

3. Sebastien Ogier - 193

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol