Dan Biggar fel peiriant

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dan Biggar yn herio'r Ffrancod

Gweilch 28 Biarritz Olympique 21

Y maswr Dan Biggar chwaraeodd ran allweddol wrth i'r Gweilch drechu Biarritz yn Stadiwm y Liberty.

Sgoriodd Tommy Bowe gais ond ciciodd y maswr saith gic gosb a throsi un - wyth allan o wyth a chyfanswm o 23 o bwyntiau.

Hwb i'r tîm cartre oedd y ffaith fod y prop Adam Jones yn holliach ar gyfer y gêm Cwpan Heineken.

Fe gafodd ei anafu yn y gêm gynderfynol rhwng Cymru a Ffrainc yng Nghwpan y Byd.

Roedd hyfforddwr y Gweilch, Jonathan Humphreys, wedi dweud y byddai'r gêm yn erbyn y Basgiaid yn "frwydr fawr gorfforol".

Dyw'r Gweilch ddim wedi colli gêm Cwpan Heineken yn Stadiwm y Liberty ers colli i Gaerlŷr ym mis Rhagyr 2005.

Scarlets 31 Castres 23

Fe gyfrannodd Stephen Jones a Rhys Priestland at fuddugoliaeth y Sgarlets yn y gêm Cwpan Heineken yn erbyn Castres ddydd Sadwrn.

Ciciodd Jones dair cic gosb a chiciodd Priestland un. Trosodd Jones ddwywaith.

Roedd tri chais i'r tîm cartre wrth i Lamont, Morgan a Davies groesi'r llinell.

Hon oedd gêm gynta George North yng Nghwpan Heineken ac eisoes roedd wedi sgorio naw cais i Gymru.

"Mae ein holwyr ni ymhlith y rhai gorau," meddai'r hyfforddwr, Nigel Davies, cyn y gêm.

"Yn gyffredinol, rydyn ni wedi cryfhau ein perfformiad ble oedd angen hynny ac roedd ein perfformiad yn erbyn y Gweilch yn galonogol."

Cavalieri Prato 3 Dreigiau 33

Roedd hi'n chwalfa yn y gêm Cwpan Her Amlin yn yr Eidal wrth i Cavalieri Prato golli 3-33 i'r Dreigiau.

Y sgôr hanner amser oedd 3-14.

Erbyn y diwedd roedd pum cais, un yr un i Brew, Sidoli, Chavhanga, Evans a Thomas.

Trosodd Tovey bedwar cais.

Doedd y clo Luke Charteris, greodd argraff yng Nghwpan y Byd, ddim ar gael.

Mae'n debyg na fydd yn chwarae tan fis Rhagfyr oherwydd anaf ar ei arddwrn.

Roedd y gic gynta yn Stadio Lungobisenzio am 1.30pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.