Dod o hyd i gorff mewn afon

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn 71 oed mewn afon yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd yr heddlu alwad am 7.35am cyn cyrraedd Mount Road yn Llanelwy.

Aelod o'r teulu oedd wedi rhoi gwybod i'r heddlu ddywedodd nad oedd amgylchiadau amheus.