Cymru'n cofio'r milwyr a gollwyd

Sul y Cofio Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Carwyn Jones: '... gallwn ni dalu teyrnged a sicrhau yn angof ni chânt fod.'

Mae gwasanaeth Sul y Cofio yng Nghymru wedi bod yng Nghaerdydd a'r trefnwyr oedd Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a'r Lleng Frenhinol sy'n 90 oed.

Am 11am roedd dwy o funud o dawelwch mewn seremonïau a gwasanaethau drwy Gymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd yn y seremoni yng Nghaerdydd: "Nid yw'r genhedlaeth frwydrodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yma mwyach ond nid yw hynny'n golygu y dylen ni anghofio'u haberth.

"Byddwn yn parhau i'w hanrhydeddu ar Sul y Cofio.

"Er nad yw'r genhedlaeth honno mwyach, yn anffodus mae rhyfela'n parhau ac felly mae'r digwyddiad hwn o hyd yn berthnasol yn y ganrif hon.

"Mae milwyr drwy Gymru a'r DU yn gwasanaethu yn Afghanistan a thros y degawdau diwetha mae milwyr wedi colli eu bywydau mewn llefydd fel Bosnia, Gogledd Iwerddon ac Irac.

'Teyrnged'

"Drwy roi ychydig o amser o'n dydd gallwn ni dalu teyrnged a sicrhau yn angof ni chânt fod."

Gorymdeithiodd y Lluoedd Arfog i'r Gofeb Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, erbyn 10.40am.

Ychydig cyn 11am dechreuodd y gwasanaeth gyda gweddi a darlleniad o'r ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Stewart Lisk.

Am 10:59am canodd biwglwr y Caniad Olaf ac am 11am taniodd gwn i nodi dechrau'r ddwy funud o dawelwch.

Gosod torch

Fe osododd Arglwydd Raglaw De Morgannwg dorch yn y gofeb ar ran y Frenhines.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yr orymdaith fore Sul yng Nghaerdydd

Ar ddiwedd y gwasanaeth ymgasglodd pawb i wylio'r Orymdaith a'r Saliwt wnaed gan Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd yr Athro Delme Bowen o flaen Neuadd y Ddinas.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman: "Fel Prifddinas Cymru mae'n bwysig i Sul y Cofio gael ei nodi yng Nghaerdydd wrth i ni gofio'r rhai fu farw, gan gynnwys nifer o Gymry dewr.

"Mae gwasanaeth y Cofio yn bwysicach fyth eleni gan fod y Lleng Brydeinig yn 90 oed. Mae hi'n gwneud cymaint i wasanaethu milwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd."

Awyrlu

Ym mhentre Caeriw Cheriton yn Sir Benfro roedd seremoni er cof am aelodau awyrlu chwe gwlad sydd wedi eu claddu yn y fynwent.

Roedden nhw'n gwasanaethu yn yr hen faes awyr adeg y rhyfel.

Yng Nghasnewydd ymunodd aelodau Cymdeithas Islamaidd Cymru â'r orymdaith i'r Senotaff a gosod torch er cof am filwyr fu farw.

Dywedodd llefarydd mai hwn oedd y tro cynta i fudiad Moslemaidd wneud hyn yng Nghasnewydd ac o bosib yng Nghymru.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.