Trechu Caerdydd unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mewn gêm gyffrous fe lwyddodd Llanymddyfri i drechu Caerdydd am yr ail dro'r tymor hwn.
Roedd eu chwarae'n dynn yn y blaen a'u holwyr yn bygwth yn aml.
Llwyddodd Luke Kendall, Huw Grundy, Mike Evans a Matthew Jacobs i sgorio i'r Porthmyn.
Trosodd y maswr Cerith Rees ddwywaith a chicio dwy gic gosb.
Canlyniadau Uwchgynghrair Rygbi Cymru ddydd Sadwrn, Tachwedd 12:
Bedwas 29-20 Casnewydd
Caerdydd 24-30 Llanymddyfri
Pontypŵl 21-23 Pen-y-bont