Heddlu'n dod o hyd i glaf ar goll

Neil Anthony Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd yr heddlu wedi dweud na ddylai'r cyhoedd fynd yn agos ato

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i glaf aeth ar goll o uned iechyd meddwl.

Diflannodd Neil Martin Anthony, 40 oed, o Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont, ddydd Sadwrn.

Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Roedd yr heddlu wedi dweud na ddylai'r cyhoedd fynd yn agos ato.