Dod o hyd i gorff ar fynydd
- Cyhoeddwyd

Aed ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor
Daethpwyd o hyd i gorff dyn ar Gader Idris, Gwynedd, fore Sul.
Roedd Christopher Currie yn 47 oed ac o Southampton.
Bu timau achub chwilio am Mr Currie ers nos Sadwrn ac fe gafodd y corff ei ddarganfod am 9am fore Sul.
Aed ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Y gred yw iddo gwympo pan oedd yn cerdded.