Cyhuddo wedi marwolaeth yn 2004

  • Cyhoeddwyd
Colette DaviesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Colette Davies yn 2004

Mae disgwyl y bydd dyn yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio'i wraig yn India dros saith mlynedd yn ôl.

Mae John Clifton Davies wedi'i gyhuddo o lofruddio Colette Davies o Ben y Bont ar Ogwr ac o dwyllo.

Roedd Colette Davies yn 39 oed pan ddisgynnodd ger pont dros Afon Giri yn Gaura yn nhalaith Himachal Pradesh ym mis Chwefror 2004.

Roedd yno ar wyliau gyda'i gŵr.

Yn wreiddiol, fe ymchwiliodd heddlu yn India cyn penderfynu nad oedd amgylchiadau amheus.

Fe gludwyd corff Mrs Davies yn ôl i Brydain cyn ei hangladd yn Amlosgfa Llangrallo ym mis Mawrth 2004.

Yn ddiweddarach fe deithiodd ditectifs o Heddlu'r De i India, gan ail-ymchwilio gyda Heddlu Himachal Pradesh.

Bore Iau, wedi adolygiad tîm ymchwilio arbenigol, fe gafodd y dyn 50 oed ei arestio.

Mae'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ond yn byw ym Milton Keynes.