Damwain farwol: Apêl am dystion
- Published
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y Sul.
Am 5:00pm ddydd Sul, Tachwedd 13, bu gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Ffordd Quarella a Thremgarth.
Roedd dau gerbyd yn y gwrthdrawiad - car Peugeot 206 lliw arian, a beic modur Yamaha DT 125.
Fe gafodd gyrrwr 19 oed y beic modur anafiadau difrifol. Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ond bu farw o'i anafiadau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion a welodd y ddau gerbyd yn yr ardal gysylltu gyda nhw.
Diolchodd swyddogion am gefnogaeth ac amynedd trigolion lleol yr ardal gan eu bod wedi gorfod cau nifer o ffyrdd yr ardal ar y pryd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gydag Uned Blismona Ffyrdd heddlu'r De ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.