India: Cadw gŵr yn y ddalfa am lofruddiaeth 2004
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth a dau o dwyll saith mlynedd wedi i'w wraig gwympo i'w marwolaeth yn India.
Bu farw Colette Davies, 39 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ar ôl cwympo o bont dros afon yn Gaura yn nhalaith Himachal Pradesh tra ar eu mis mêl yn 2004.
Ymddangosodd John Clifton Davies, 50 o Milton Keynes, gerbron ynadon Caerdydd fore Llun.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn llys y goron ddydd Mercher.
Roedd Mrs Davies a'i gŵr wedi gohirio eu mis mêl am 14 mis er mwyn medru ymweld ag India.
Wythnos wedi iddyn nhw gyrraedd fe gwympodd o fan gwylio uwchben ceunant serth.
Cafodd ei chorff ei gludo yn ôl i'r DU lle cafodd gwasanaeth angladd ei gynnal yn Amlosgfa Llangrallo ym mis Mawrth 2004.
Roedd yr heddlu wedi bod yn holi Mr Davies ers dydd Iau wedi iddo gael ei arestio yn ei gartref yn Milton Keynes.
'Difrifol iawn'
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y cyhuddiadau o lofruddiaeth a thwyll yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda heddlu Himachal Pradesh.
Dywedodd prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru (GEG), Felicity Galvin: "Mae GEG wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Heddlu'r De wrth i'w hymchwiliad i farwolaeth Colette Davies yn 2004 barhau.
"Gallwn gadarnhau ein bod, ar ôl archwilio'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan Heddlu'r De, wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth i gyhuddo John Clifton Davies gyda llofruddiaeth Colette Davies a bod hynny er budd i'r cyhoedd yn ogystal.
"Er bod y cyhuddiad yn ymwneud â throsedd a gyflawnwyd yn India, mae cyfraith Cymru a Lloegr yn caniatáu i ddinasyddion Prydain sefyll eu prawf yn y wlad yma os yw dioddefwr y drosedd hefyd yn ddinesydd Prydeinig.
"Mae John Clifton Davies nawr yn wynebu cyhuddiadau difrifol iawn, ac mae ganddo'r hawl i achos teg."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Heddlu Talaith Himachal Pradesh am y gefnogaeth a gawsom wrth ymchwilio'r farwolaeth drasig yma.
"Er bod person wedi ei gyhuddo gyda llofruddiaeth, rwy'n ail-adrodd fy apêl flaenorol am unrhyw wybodaeth am amgylchiadau marwolaeth Colette Davies."
Gofynnir i bobl sydd â gwybodaeth am farwolaeth Mrs Davies i gysylltu gyda Heddlu'r De ar 01639 889732, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011