Cymru dan-21: Capten yn hyderus
- Cyhoeddwyd

Mae capten tîm pêl-droed dan-21 Cymru yn credu fod eu gêm nos Fawrth yn ddechrau cyfres o gemau allweddol.
Roedd Jazz Richards o glwb Abertawe yn siarad cyn i Gymru herio Armenia yn Yerevan.
Mae tîm Brian Flynn yn bedwerydd mewn grŵp o bump, ond dim ond pedwar pwynt o'r brig.
Mae Richards, sydd newydd arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb Stadiwm Liberty, yn credu fod gan Gymru gyfle da o gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth dan-21 Ewrop yn Israel yn 2013 os fyddan nhw'n ennill y pedair gêm sy'n weddill yn y grwp.
Collodd Cymru eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Weriniaeth Siec.
'Hanfodol'
"Mae'n gêm hanfodol i ni ac rydym yn gwybod fod rhaid ennill bob gêm o hyn ymlaen," meddai Richards.
"Ond mae ysbryd y garfan yn wych ac mae'r bois yn edrych ymlaen at yr her.
"Rydym yn gwybod y byddai ennill nos Fawrth yn rhoi hyder i ni edrych ymlaen at weddill yr ymgyrch."
Ond mae Armenia wedi sicrhau sawl canlyniad da yn ddiweddar, gan lwyddo i gael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Y Weriniaeth Siec a churo Montenegro o 4-1.
"Rydym yn gwybod y bydd hon yn gêm anodd, ond rydym wedi bod yn gweithio'n galed wrth ymarfer, ac os fyddwn yn chwarae fel y gallwn wneud, fe ddylen ni ennill."
Armenia dan-21 v Cymru dan-21; Stadiwm Hanrapetakan, Yerevan; Dydd Mawrth, Tachwedd 15, 1pm.