Bywyd newydd i hen sinema oedd wedi mynd a'i ben iddo
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o drawsnewid hen sinema gofrestredig yn siop a llyfrgell fodern wedi ei gwblhau.
Cafodd adeilad Sinema'r Palas yn Rhisga yn sir Caerffili ei drawsnewid ar gost o £1.6 miliwn.
Wedi blwyddyn o waith mae'r hen adeilad erbyn hyn yn archfarchnad Tesco Express ac yn ganolfan gelfyddydol arbennig ar gyfer llyfrgell a chanolfan gwasanaethau i gwsmeriaid.
Cwmni adeiladu o dde Cymru, Opco, wnaeth y gwaith ar yr hen adeilad a oedd wir angen ei adnewyddu a'i adfer i'w hen ogoniant.
Roedd blaen y sinema wedi cael ei gofrestru Gradd I.
Roedd rhaid tynnu asbestos oedd yn yr adeilad gwreiddiol ac adfer y to llechi ynghyd ag ailgylchu deunyddiau eraill o'r hen sinema.
Swyddi
Fe fydd y safle yn cael ei agor yn swyddogol ar Ragfyr 9.
Fe wnaeth Cyngor Sir Caerffili neilltuo £150,000 i lenwi'r llyfrgell newydd ac fe fydd 25 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda'r siop hefyd yn creu swyddi.
"Rydym i gyd wedi gweithio yn galed am gyfnod sylweddol o amser er mwyn sicrhau bod y cynllun yma yn dwyn ffrwyth," meddai Arweinydd Cyngor Sir Caerffili, Allan Pritchard.
"Rydym yn gwbl ymwybodol ac yn deall pa mor bwysig oedd hi ein bod yn adfywio'r adeilad pwysig yma i bobl Rhisga.
"Mae'r cyfuniad o'r hen a'r newydd yn ddatganiad unigryw ar gyfer adfywio canol y dref a dwi'n hyderus y bydd yn cael ei gydnabod fel adeilad hanesyddol a phwysig yn Rhisga."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Opco, Nigel Coulter, eu bod yn falch iawn o gydweithio gyda'r cyngor a'r datblygwyr Johnsey Estates, i gadw pwysigrwydd yr adeilad a'i adfer ar gyfer y gymuned a fydd yn sicr yn cael cryn ddefnydd.