Tegeirian ag arogl siocled yn blodeuo’n gynnar

Tegeirian Stanhopea Image copyright Other
Image caption Mae'r tegeirian Stanhopea fel arfer yn blodeuo yn yr haf

Mae tegeirian anarferol yng Ngardd Fotaneg Treborth ger Bangor wedi blodeuo yn annisgwyl gan roi'r cyfle i ymwelwyr synhwyro ei arogl siocled.

Mae'r planhigyn fel arfer yn blodeuo pob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.

Ond yn y gerddi ar Dachwedd 13, recordiwyd y tymheredd uchaf mewn 25 mlynedd ar gyfer y mis yma yng ngogledd Cymru, pan darodd y thermomedr 18.2 gradd Celsius.

Yno, ar dir a brynwyd gan Prifysgol Bangor yn y 1960au, mae gan y planhigyn ddail sy'n chwe modfedd o hyd yn dod allan o fwlb "gwyrdd, asennog" ac mae wedi ei ddisgrifio fel taten sy'n storio dŵr, yn debyg i gactws.

Mae'r blodyn wedyn yn hongian lawr o dan y planhigyn, gan dyfu tua dwy fodfedd ar draws.

Mae staff yr ardd yn credu i'r tywydd cynnes diweddar sbarduno'r blodeuo annhymhorol.

"Mae yna gyswllt, gan ei bod nid yn unig yn ymateb i dymheredd, ond hefyd i fwy o olau ac mae o wedi bod yn hydref eithaf heulog," meddai Nigel Brown, curadur Gardd Fotaneg Treborth.

"Gan ei fod tu fewn, rydym yn ychwanegu at y tymheredd ond ar ddiwrnod heulog, mae'r tymheredd yn codi'n uwch yma hefyd."

Dim ond am tua phedwar neu bum niwrnod y mae'r planhigyn yn blodeuo.

Mae eu harogl yn 'bwerus iawn'.

"Dwi'n gweld o'n arogli fel siocled a mintys ac mae o'n cario trwy'r adeilad i gyd," ychwanegodd Mr Brown.

Tymheredd uchel

Yn ôl cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sue Charles, y tymheredd cyfartalog ar gyfer Tachwedd yng Nghymru yw rhwng 9 ac 11 Celsius.

Roedd yr amgylchiadau ddydd Sul felly yn annhymhorol o fwyn.

"Roedd Ynys Môn yn chwe gradd gynhesach nag Athens!" meddai Sue Charles.

"Rydych angen rhai ffactorau allweddol er mwyn cael diwrnod fel yna yn Nhachwedd.

"Mae pwysedd uchel yn arwain at amodau clir a sefydlog ac, yn hanfodol, tywydd heulog.

"Daeth y gwynt o'r de ddwyrain, yn chwythu aer cynnes a chaiff ei hadnabod fel màs aer trofannol cyfandirol.

"Wrth gael gwyntoedd fel yma, bydd ardaloedd yng ngogledd orllewin Cymru yn profi'r Effaith Foehn; mae'r aer cynnes yn sychu wrth daro'r mynyddoedd ac yn cynhesu wrth gyrraedd ardaloedd cysgodol ar yr ochr arall."

Recordiwyd y tymheredd uchaf yn Nhachwedd yng Nghymru yn 1946, pan gyrhaeddwyd 21.7C ym Mhrestatyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.