Caerdydd: Llacio archwiliadau pasport

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Maes Awyr Caerdydd yn un o 28 lleoliad lle llaciwyd archwiliadau pasport

Roedd Maes Awyr Caerdydd yn un o 28 lleoliad lle llaciwyd archwiliadau pasport dros yr haf.

Cyflwynwyd cynlluniau i lacio'r rheolau yn gynharach eleni gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ond mae hi'n honni bod swyddogion yr Asiantaeth Ffiniau wedi mynd gam ymhellach heb ei chaniatâd.

Mae cyn-bennaeth yr asiantaeth, Brodie Clark, wedi ymddiswyddo ac yn bwriadu erlyn y Swyddfa Gartref ar sail diswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr.

Fe fydd Mr Clark yn cael ei holi gan y Pwyllgor Materion Cartref yn San Steffan ddydd Mawrth.

Ymddiswyddo

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi datgelu bod ei chynllun peilot, i lacio'r rheolaeth ar rai o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, ei weithredu mewn 28 o borthladdoedd a meysydd awyr.

Roedd y rhain yn cynnwys Caerdydd, Heathrow, Gatwick, Glasgow, Harwich, Manceinion ac Aberdeen.

Datgelwyd y wybodaeth yn dilyn cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan gadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz.

Mae Ms May yn honni bod yr Asiantaeth Ffiniau wedi ehangu'r cynllun i gynnwys miloedd mwy o fewnfudwyr heb ei chaniatâd.

Cafodd Mr Clark ei wahardd o'i waith cyn iddo ymddiswyddo, ac mae'n honni bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi ei gwneud hi'n amhosib iddo barhau yn ei swydd.

Mae'n gwrthod yr honiad ei fod wedi mynd ymhellach na gorchmynion yr Ysgrifennydd Cartref.

Deellir ei fod yn debygol y bydd Mr Clark yn honni ei fod wedi ehangu'r cynllun yn dilyn cyngor gan yr heddlu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol