Cynllun i achub cartref hanesyddol
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwyr cartref gofal sy'n adeilad rhestredig Gradd II yn honni mai'r unig ffordd o achub yr adeilad yw ei newid yn fflatiau.
Bydd Cartref Gofal Gorffwys ym Mhorthcawl yn cael ei droi'n adeilad gyda 59 o fflatiau pe bai cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo.
Mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer cleifion sy'n gwella ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.
Dywed y perchnogion mai'r bwriad yw codi adeilad newydd y tu ôl i'r adeilad rhestredig fyddai'n darparu'r un math o ofal.
Yn ôl cyngor Pen-y-bont fe allai penderfyniad ynglŷn â'r datblygiad gael ei wneud ym mis Ionawr.
Ar hyn o bryd mae 45 aelod o staff yn gofalu am hyd at 200 o bobl yn yr adeilad, sy'n cynnwys 90 ystafell wely.
Mae rhai pobl leol yn gwrthwynebu, gan ddweud eu bod yn poeni y byddai rhai o adeiladau eraill sy'n gysylltiedig â'r cartref gofal yn cael eu dymchwel.
Dywedodd Rob Gough, cadeirydd gweithredol pwyllgor rheoli'r elusen sy'n rheoli'r cartref gofal: "Os na fyddwn ni'n bwrw ymlaen gyda'r cynllun hwn fe fydd yr adeilad Gradd II yn adfail ymhen ychydig o flynyddoedd.
"Y broblem yw bod yr adeilad, sy'n 150 oed, yn costio rhwng £50,000 a £70,000 i'w gynnal bob blwyddyn.
"Fe fydd y gost o adfer y to rhwng £350,000 a £500,000.
"Roedd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer llogi'r ganolfan gofal ond ddigwyddodd hynny ddim eleni.
"O ganlyniad rydyn ni wedi colli £7,000 o incwm."
Dymchwel
Pe bai'r cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo fe fydd datblygwyr yn adeiladu cartref newydd 38 ystafell gyda 55 gwely y tu ôl i'r hen adeilad.
Byddai adeiladau eraill, sy'n cynnwys y ganolfan gofal dydd, meithrinfa, stablau a thai gwydr yn cael eu dymchwel.
Dywedodd Mr Gough fod y datblygwyr yn bwriadu trawsnewid y cartref i adeilad fyddai'n cynnwys 59 o fflatiau, campfa a phwll nofio.
Dywedodd cynghorydd lleol, David Newton-Williams: "Rwy'n deall pam eu bod yn awyddus i ddatblygu'r safle am nad ydynt yn gallu cynnig gofal nyrsio yn yr hen adeilad.
"Mae ganddynt gyfle i ddarparu gofal nyrsio yn yr adeilad newydd."