Annog dyngarwch i hybu elusennau Cymru
- Cyhoeddwyd

Wrth i drafferthion Ewrop barhau i fygwth economi Prydain, mae'n gyfnod anodd iawn i elusennau Cymru.
Yn ôl Tŷ Gobaith, yr hosbis blant yng ngogledd Cymru, mae eu rhoddion gan unigolion i lawr 35% eleni ac mae'n rhaid iddynt droi at fusnesau mawr am gymorth.
Mae'r Sefydliad Cymunedol felly wedi mynd ati i drefnu Wythnos Dyngarwch Cymru. Eisoes eleni maen nhw wedi buddsoddi £1.7m mewn achosion da ar ran busnesau.
Eu nod yw profi bod gan ddyngarwch y gallu i gryfhau cymunedau Cymru.
Eglurodd Liza Kellett, prif weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: "Wedi ei hamseru rhwng Diwrnod Coffadwriaeth a Phlant Mewn Angen, mae Wythnos Dyngarwch am ddathlu a hybu rhoi elusennol yng Nghymru.
"Yn ogystal â chynnig gwasanaethau dyngarwch i'n cwsmeriaid, rydym hefyd yn gweld ein rôl fel un o hyrwyddo dyngarwch mwy eang, a'r wythnos hon bydd sawl menter yn cael ei lansio, sy'n edrych ar ffyrdd gwahanol o roi, gan ddathlu dyngarwch a dangos i bobl yr effaith all rhoddion elusennol gael."
Un sy'n croesawu'r cyfle i rannu neges ei elusen yw Simi Epstein, cyfarwyddwr codi arian Tŷ Gobaith.
"Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn un o'r rhai anoddaf i ni," meddai. "Rydym yn derbyn arian gan unigolion mewn ymateb i ddau ymgyrch llythyru'r flwyddyn.
Cyhoeddusrwydd am ddim
"Fel arfer, byddem yn derbyn arian am ryw bum wythnos wedyn, ond eleni daeth i ben ar ôl pythefnos.
"Mae gennym ddewis i anfon rhagor o lythyrau, ond gan mai elusen leol ydym, byddem yn targedu'r un bobl trwy'r amser, ac yna mae pobl yn diflasu."
Mae'r elusen felly wedi troi at gorfforaethau sy'n annog eu staff i godi arian at achosion da.
"Mae'n costio rhyw £2000 i gorfforaeth roi hysbyseb yn y papur," eglurodd Simi Epstein. "Ond os ydynt am gydweithio gydag elusen, yna maen nhw'n cael copi yn y papur am ddim, ac mae pobl yn fwy tebygol o'i ddarllen.
"Mae cael wythnos dyngarwch hefyd yn gyfle gwych i ni atgoffa pawb ein bod yn dal yma, yn gwneud yr un gwaith a'n bod angen cymorth i barhau â'r gwaith yma."
'Effaith Primark'
Yn ôl yr elusen canser Cymreig, Tenovus, mae hefyd yn gyfnod anodd iawn i ddibynnu ar incwm o siopau elusennol.
"Mae pobl yn fwy tebygol o werthu eu hen bethau ar y we neu mewn arwerthiannau cist car," dywedodd Tim Finch, pennaeth masnach Tenovus.
"Mae yna hefyd beth rydym yn ei alw'n 'effaith Primark'; wrth i brisiau dillad newydd ostwng, mae'n rhaid i ninnau hefyd ostwng ein prisiau.
Ymhlith y digwyddiadau'r wythnos hon bydd sesiwn 'speed dating', gan roi'r cyfle i rai elusennau Cymraeg sôn am eu gwaith o flaen grŵp o gyfranwyr gydag arian i'w cynnig.
Bydd gwefan dyngarwch hefyd yn cael ei lansio, ymgyrch gan Coutts i hybu dyngarwch ymysg pobl ifanc a phresenoldeb newydd i elusennau bach Cymreig ar localgiving.com.
Ychwanegodd Liza Kellett: "Rydym wedi'n plesio'n fawr gyda'r ymateb gwresog a diddordeb busnesau a sefydliadau yn Wythnos Dyngarwch. Mae hyn wedi profi i ni, a phawb sy'n gweithio yn y sector, bod yna wir ddiddordeb ac archwaeth am wythnos i ddathlu a dysgu am ddyngarwch."