Cantores: Taclo stelciwr ar Twitter

Katherine Jenkins Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Katherine Jenkins yn honni bod y stelciwr wedi sefydlu cyfrif Twitter ffug yn ei henw hi

Mae'r gantores Katherine Jenkins yn honni bod stelciwr ar-lein wedi ei dilyn am fwy na blwyddyn.

Penderfynodd y gantores 31 oed ddatgelu'r wybodaeth wedi i'r person mae hi'n galw'n fwli anfon cwestiwn ar wefan Twitter ati yn ystod y rhaglen Something For The Weekend ar BBC 2.

Mae hi'n honni fod y person sy'n trydar wedi ei gwawdio ynglŷn â marwolaeth ei thad o ganser yr ysgyfaint pan oedd hi yn ei harddegau.

Mewn trydar dywedodd Ms Jenkins: "Mae'n amser imi ddal fy nhir."

'Gwatwar'

Dywedodd Ms Jenkins, sydd wedi dyweddïo â'r cyflwynydd teledu o Gaerdydd, Gethin Jones, ei bod wedi ceisio anwybyddu'r gwatwar ond ei bod hi wedi colli amynedd wedi i'r cwestiwn gael ei anfon i'r rhaglen teledu.

Mae Ms Jenkins yn honni bod y stelciwr wedi sefydlu cyfrif Twitter ffug yn ei henw hi.

Mewn trydar, dywedodd y gantores o Gastell-nedd: "Annwyl *****, rwy'n meddwl ei bod hi'n drist iawn eich bod chi, hyd yn oed fel oedolyn, yn meddwl ei fod yn iawn i fwlio rhywun.

"Mae gan bawb eu barn a dwi ddim yn meddwl bod pawb yn fy hoffi ond does gennych chi ddim hawl i fy ngwatwar fel rydych chi wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ddweud pethau fel 'codwch stori'r dadi'n marw unwaith eto'.

"Rydych chi wedi sefydlu cyfrif ffug yn f'enw lle rydych chi'n fy mhardduo.

"Ar ôl imi geisio eich stopio rydych chi wedi ceisio fy ngwatwar unwaith eto'r bore 'ma ac yn awr rydych chi wedi cymryd cam yn ormod.

"Rydw i wedi ceisio eich anwybyddu ond yn awr mae'n rhaid imi ddal fy nhir."

'Bwlio ar y we'

Mae penderfyniad Ms Jenkins i ddatgan ei honiadau wedi i Lywodraeth Prydain lansio ymgynghoriad i daclo stelcio ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Katherine Jenkins: "Mae unrhyw fath o fwlio yn annerbyniol.

"Mae Katherine yn caru Twitter a hwn yw un o'r amryw ffyrdd mae hi'n defnyddio i gadw mewn cysylltiad gyda'i ffrindiau a chefnogwyr.

"Mae'n drist fod lleiafrif yn defnyddio Twitter i fwlio ar y we."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.