Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad cefnogwr pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Michael DyeFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Michael Dye anafiadau angheuol cyn y gêm yn Wembley fis Medi

Mae dyn 41 oed wedi cyfadde' lladd cefnogwr pêl-droed Cymru, fu farw o anafiadau i'w ben y tu allan i Stadiwm Wembley.

Yn Llys yr Old Bailey ddydd Mawrth, fe blediodd Ian Mytton, o Redditch yn Sir Caerwrangon, yn euog i ddynladdiad Michael Dye.

Bu farw Mr Dye wedi digwyddiad cyn gêm bêl-droed rhwng Cymru a Lloegr yn Wembley ar Fedi 6.

Roedd Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, wedi mynd i Lundain i weld y gêm yng Nghystadleuaeth Rhagbrofol Ewro 2012.

Cyswllt fideo

Cafwyd hyd i Mr Dye y tu allan i Giât C Wembley, funudau cyn y gic gyntaf.

Wrth ymddangos trwy gyswllt fideo o'r carchar, fe blediodd Mytton yn euog i ddynladdiad Mr Dye, oedd yn gefnogwr clwb pêl-droed Caerdydd.

Cafodd Mr Dye ei gludo i Ysbyty Northwick Park ar ôl torri ei benglog yn y digwyddiad am 7:20pm, ond bu farw ychydig ar ôl cyrraedd.

Roedd Mr Dye, a oedd yn byw yn Nhrelái ac yn cael ei adnabod fel Mikey gan lawer, wedi bod yn gefnogwr clwb pêl-droed Caerdydd ers blynyddoedd ac yn ysgrifennu amdanynt ar safle sgwrsio'r clwb.

Roedd yn gweithio fel saer maen i Gyngor Caerdydd.

Bydd Mytton yn cael ei ddedfrydu yn yr Old Bailey ar Ragfyr 21.