Armenia dan-21 0-0 Cymru dan-21

Jazz Richards Image copyright Other
Image caption Roedd capten Cymru, Jazz Richards, wedi gobeithio am bedair buddugoliaeth

Roedd siom i dîm dan-21 pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Armenia yn Yerevan.

Mae'r canlyniad yn gadael Cymru yn bedwerydd yn grŵp 3 yn y rowndiau rhagbrofol gyda thair gêm yn weddill.

Mewn gêm ddiflas, dim ond dwy ergyd ar y gôl gafodd y ddau dîm, er i Gymru gael naw cic gornel o'i gymharu ag un i Armenia.

Daeth dau gynnig gorau Cymru gan Elliott Hewitt a'r eilydd Elliott Chamberlain, ond llwyddodd Arsen Petrosyan - golwr Armenia - i arbed y ddau gynnig.

Cafodd Chris Maxwell yn y gôl i Gymru gêm ddistaw hefyd, ond roedd angen bod ar ei orau yn y funud olaf i achub pwynt drwy arbed cynnig Artak Edigaryan.

Roedd capten Cymru, Jazz Richards, wedi dweud cyn y gêm y byddai Cymru angen pedair buddugoliaeth yn eu pedair gêm olaf er mwyn sicrhau eu lle ym Mhencampwriaeth Dan-21 Ewrop yn Israel yn 2013.

Er y siom ddydd Mawrth, dim ond triphwynt o frig y grŵp y mae Cymru, ac mae'r gobeithion yn dal yn fyw.

Gemau Rhagbrofol Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop 2013 - Grŵp 3

Safle Ch E Cyf Colli Pwyntiau
1. Y Weriniaeth Siec 4 3 1 0 10
2. Montenegro 5 3 0 2 9
3. Armenia 5 2 2 1 8
4. CYMRU 5 2 1 2 7
5. Andorra 5 0 0 5 0

Straeon perthnasol