£2.5m i adfywio tref glan môr
- Cyhoeddwyd

Bydd Aberystwyth yn derbyn miliynau o bunnau i adfywio'r dref ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Bydd yr orsaf fysiau a'r ardal gyfagos yn cael eu gweddnewid gyda £2.5m o arian Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwell mynediad i'r ardal o amgylch yr orsaf a phorth gwell i ganol y dref ei hun.
Bydd £200,000 arall yn cael ei fuddsoddi i wella ardal y promenâd.
Mae cyfle i bobl Aberystwyth leisio'u barn ar beth arall y maen nhw am ei weld ar y rhodfa i sicrhau ei fod yn lle mwy deniadol trwy gydol y flwyddyn.
'Llawn bywyd'
Hoffai Lee Price, prif reolwr busnesau Pier Brenhinol Aberystwyth, weld rhagor o adloniant a masnach ar lan môr y dref.
"Mae gennym luniau ar y pier o'r hen ddyddiau, a beth a welwn yw grwpiau mawr o bobl yn mwynhau, masnachwyr stryd yn gwerthu pysgod a chandi fflos," meddai Mr Price.
"I mi, dyna beth yw'r prom - lle llawn bywyd - yn enwedig yn yr haf, pan fo Aber ar ei phrysuraf gyda theuluoedd.
"Dwi'n sicr gallent wario arian ar dacluso'r lle - gosod rhagor o finiau sbwriel, trwsio'r rheiliau a gwneud i bopeth edrych yn fwy lliwgar.
"Ond hoffwn eu gweld yn defnyddio'r arian hefyd i ostwng trethi busnes i fasnachwyr ar y prom, er mwyn cael siopau a lleoedd bwyta yma. Nid oes llawer o gwbl ar hyn o bryd.
"Pan rydym yn cael ymwelwyr, dwi eisiau denu eu sylw a chreu atgofion da o'u hamser yma.
"Dwi'n gweld tripiau cwch yn dod draw weithiau - dyna'r math o bethau rydym eu hangen."
'Addas at y diben'
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Adfywio, ei fod yn gobeithio y byddai'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn cael effaith hirdymor ar ddyfodol Aberystwyth.
"Rydym am i'r saith ardal adfywio a nodwyd gennym ledled Cymru fod yn ganolfannau lle y bydd yr economi leol yn cael ei hybu, a lle y gall trigolion lleol berchenogi mentrau fel bod unrhyw ddatblygiadau yn addas at y diben.
"Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus a gwella'r promenâd, sy'n un o brif asedau'r dref, yn rhan bwysig iawn o fodloni'r amcanion hynny."
Cafodd barn y gweinidog ei adleisio gan Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ardal Adfywio Aberystwyth.
"Mae hwn yn gyfle unigryw i Aberystwyth. Heb arian y rhaglen Adfywio, byddai'r Awdurdod Lleol wedi ei chael hi'n anodd iawn i wireddu rhai o'n cynlluniau ar gyfer y dref.
"Byddwn i'n annog pawb i fanteisio ar yr ymgynghoriad hwn ar y promenâd, ac i roi gwybod i ni beth yw eich barn chi."
Bydd yr ymgynghoriad ar y promenâd yn cael ei lansio ar Ragfyr 6, a bydd gwybodaeth ar gael wrth y Bandstand yn ystod y dydd.
Bydd arddangosfa i'w chael hefyd yn archfarchnad Morrisons am gyfnod estynedig.
Straeon perthnasol
- 15 Tachwedd 2011
- 15 Tachwedd 2011
- 29 Hydref 2011