Diffoddwyr yn brwydro tân eithin
- Cyhoeddwyd

Roedd y tân wedi ymledu dros dair neu bedair acer
Mae tair injan dân ac 16 o ddiffoddwyr wedi bod yn brwydro tân eithin ym Mynydd Cilgwyn ger Carmel yng Ngwynedd.
Roedd y tân wedi ymledu dros bedwar erw o dir yn ymyl y pentref sy'n agos i Benygroes.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r safle am tua 4:36pm ddydd Mawrth.
Roedd y gwyntoedd cryfion wedi ei gwneud hi'n anodd diffodd y fflamau.
Ond fe lwyddwyd i wneud hynny erbyn 7:00pm.