Un o'r 'Dreigiau' yn gwahardd nyrs
- Cyhoeddwyd

Dywed nyrs gofal, sydd wedi derbyn triniaeth am ganser, ei bod wedi'i synnu a'i siomi ar ôl cael ei gwahardd o glwb ffitrwydd o eiddo Duncan Bannatyne, un o gyflwynwyr rhaglen Dragons' Den.
Roedd Bronwen Davies wedi gofyn i'r clwb yn Llanisien, Caerdydd, atal ei haelodaeth dros dro ar ôl iddi gael gwybod ei bod yn dioddef o ganser.
Ym mis Medi fe enillodd achos yn y llys sirol a derbyn ad-daliad tâl aelodaeth o £164.
Fe ysgrifennodd Mr Bannatyne ati yn dweud na fyddai byth yn ei derbyn fel aelod yn un o'i glybiau yn y dyfodol gan ddweud ei bod yn "hymddygiad yn tarfu" - honiad mae Mrs Davies yn ei wadu.
"Dwi'n siomedig, yn gwbl siomedig bod dyn o'i statws o a chlwb cenedlaethol yn ymddwyn yn y modd dialgar yma," ychwanegodd Mrs Davies.
Mae gan y gŵr busnes nifer o ddiddordebau busnes sy'n cynnwys gwestai, trafnidiaeth a'r cyfryngau ac mae o wedi dod i amlygrwydd yng nghyfres BBC Dragon's Den.
Fe wnaeth Ms Davies ymaelodi â'r gampfa gyntaf yn 2004, cyn iddo gael ei brynu gan gwmni Mr Bannatyne.
Ym mis Gorffennaf 2009 cafodd wybod ei bod yn diodde' o ganser y tonsil a bu ar gwrs chemotherapi a radiotherapi am chwe wythnos.
Dywedodd iddi ofyn i'r gampfa atal ei haelodaeth dros dro, oherwydd ei chyflwr.
'Gwybodaeth anghywir'
"Cefais wybod gan y rheolwr yn Llanisien y byddai hynny'n bosib ond fod yn rhaid i mi wneud cais ysgrifenedig ac roeddwn yn gallu atal fy aelodaeth o fis Hydref," meddai Ms Davies.
"Byddwn yn gallu gofyn am fis ar y dechrau, ac yna byddai angen ffonio er mwyn ymestyn y cyfnod.
"Fel mae'n digwydd roedd y wybodaeth yn anghywir.
"Fe ddylai'r rheolwr fod wedi dweud fod modd atal yr aelodaeth rhwng dau a chwe mis. Ond, ta waeth, fe wnes i weithredu ar y wybodaeth a gefais, ac fe ysgrifennais lythyr.
"Yn dilyn hynny roeddwn yn sâl iawn," meddai.
"Doeddwn ddim mewn unrhyw gyflwr i ffonio'r clwb nac ysgrifennu yn y misoedd nesa'.
"Fe wnaeth fy ngŵr ffonio, a dweud fy mod yn rhy sâl i gysylltu, a gofyn a oedd modd atal yr aelodaeth am gyfnod estynedig."
Dywedodd Ms Davies fod y ffi ar gyfer Hydref 2009 wedi cael ei gymryd o'i chyfrif banc, ond i'r cwmni ei ad-dalu yn ddiweddarach.
Ond daeth i'w sylw fod ffi aelodaeth hefyd wedi ei godi am y misoedd canlynol.
Unwaith i'w hiechyd wella erbyn 2010 fe ysgrifennodd yn gofyn am ad-daliad.
Dywedodd i'r clwb lleol gyfeirio ei llythyr at bencadlys y cwmni.
"Ysgrifennais at y cwmni tua hanner dwsin o weithiau, gan gynnwys un llythyr at Duncan Bannatyne. Roedd y llythyrau'n cynnwys cymal yn gofyn am eu trefn cwyno. Ond roedd y cwbl yn ofer."
Dywedodd i'w stori gael sylw gan bapur newydd cenedlaethol ym mis Ionawr 2011.
'Pitw'
Mae'n dweud iddi wedyn gael galwad ffôn gan un o reolwyr y cwmni yn awgrymu y dylai hi ystyried rhoi'r gorau i fod yn aelo
"Dywedais, na, doedd gennyf ddim problem gyda'r clwb lleol. Mae gennyf, fel y gwyddoch, broblem gyda'r pencadlys a cheisio cael ad-daliad."
Ym mis Medi aeth â'i hachos i'r llys sirol.
"Fe wnaeth y barnwr ddyfarnu o'm plaid a gorchymyn i'r cwmni ad-dalu fy nhâl aelodau a'm costau."
Ar ôl yr achos fe ysgrifennodd Ms Davies at Mr Bannatyne yn gofyn am gael ei hail gofrestru fel aelod.
Ond cafodd y cais ei wrthod ganddo mewn llythyr: "Tra nad wyf yn cytuno gyda phenderfyniad y llys, na chwaith eu dehongliad o'r cytundeb aelodaeth a'n polisïau, rwy'n fodlon derbyn penderfyniad y llys.
"Ond nid wyf yn fodlon derbyn unrhyw gais gennych ar gyfer aelodaeth o unrhyw un o glybiau iechyd Grŵp Bannatyne."
Dywedodd Mr Bannatyne ei fod o'n fodlon fod y cwmni wedi delio â chwyn Ms Davies ar bob lefel.
Yn ei lythyr, dywedodd y dylai Ms Davies adael i'r mater fod.
Wedi i'r stori ymddangos yn y wasg gyntaf ddydd Mercher fe wnaeth Mr Bannatyne ymateb drwy wefan Twitter.
Ymhlith y sylwadau yr oedd honiadau bod Ms Davies yn "dweud celwydd cyson".
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Bannatyne bod y sylwadau ar Twitter yn fater i Mr Bannatyne.
Mewn datganiad fe wnaethon nhw ddweud nad yw'r stori yn dweud y gwir yn llawn.
"Cafodd aelodaeth y wraig ei atal am fod ei hymddygiad yn un oedd yn tarfu.
"Mae Grŵp Bannatyne yn cefnogi nifer o elusennau canser ac yn cydymdeimlo gyda dioddefaint cleifion."
Aeth ymlaen i ddweud nad oedden nhw am gael eu bwlio gan y cyn-aelod a'u bod yn "gweithredu er lles eu holl aelodau".
Mewn ymateb dywedodd Ms Davies nad ydi hi wedi ymddwyn yn aflonyddgar ac fe ddisgrifiodd y sylwadau ar twitter fel rhai "ffiaidd".