Pump wedi eu hanafu

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 1.20pm oherwydd gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd.

Roedd y ddamwain wrth oleuadau traffig Tŷ Newydd yn Y Rhyl.

Aed â phump o bobl i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Y pump oedd tair menyw 33, 46 a 64 oed, dyn 34 oed a phlentyn dwy oed.