Traws Cambria: Diffyg ymgynghoriad?

  • Cyhoeddwyd
Bws ArrivaFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bwriad y newidiadau yw lleihau y siwrne o 20 munud

Mae honiadau am ddiffyg gwybodaeth ynghylch gwasanaeth bws sy'n teithio trwy'r canolbarth wedi arwain at gyfarfod cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid amserlen bws Traws Cambria sy'n teithio o Aberystwyth i Gaerfyrddin, gan osgoi pentrefi Cribyn a Llanwnnen ger Llambed.

Bydd yr amserlen newydd yn golygu na fydd bws cwmni Arriva yn teithio o Aberystwyth i Gaerdydd a bydd rhaid i deithwyr gamu o'r bws cyn dal trên i'w cyrchfan derfynol.

Nod y newidiadau yw lleihau'r siwrne o 20 munud.

Ddim yn ddigonol

Y gred yw y bydd rhaid i bobl y pentrefi nad ydyn nhw ar y llwybr bws newydd ddefnyddio gwasanaeth Bwcabus, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Gâr, i ddal bws Traws Cambria yn Llambed.

Mae AC Ceredigion, Elin Jones, wedi honni nad yw pobl y ddau bentref wedi eu hysbysu'n ddigonol am y newidiadau arfaethedig.

Cododd Ms Jones y mater yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf.

"Roeddwn yn awyddus i dynnu sylw'r Prif Weinidog i'r ffaith bod swyddogion yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ailgyfeirio'r gwasanaeth bws i ffwrdd o bentrefi Cribyn a Llanwnnen ond heb ddarparu unrhyw fanylion swyddogol am y cynigion i drigolion lleol.

"Mae hyn yn golygu bod yna gryn dipyn o gamwybodaeth yn cylchredeg ynglŷn â beth fydd y newidiadau yn ei golygu mewn gwirionedd i drigolion y cymunedau hyn.

"Tra bod y Prif Weinidog yn fodlon edrych ymhellach ar y diffyg ymgynghoriad yn y cyswllt hwn, rwy i wedi cael trafodaeth gyda swyddogion cludiant ac rwy nawr yn trefnu cyfarfod cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu cyflwyno gwybodaeth am eu cynlluniau yn ogystal â gwrando ar farn trigolion lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynghorau Ceredigion a Sir Gâr ar hyn o bryd yn ystyried y cytundeb ar gyfer y gwasanaeth bws Traws Cambria sydd yn cysylltu Aberystwyth, Aberaeron, Llambed a Chaerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus yng Nghribyn ddydd Iau

'Dim penderfyniad'

"Does yna ddim penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â'r cytundeb a does yna ddim penderfyniad chwaith ynglŷn â'r amserlen newydd a lle bydd y gwasanaeth Traws Cambria newydd yn stopio.

"Mae'r gwasanaeth lleol poblogaidd Bwcabus wedi cael ei ehangu ac fe fyddan nhw o hyn ymlaen yn cynnwys cymunedau Cribyn a Llanwnen."

Dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig o gwmpas Llambed.

"Fe fydd y gwasanaeth newydd yn cyflymu amseroedd teithio ar gyfer teithiau hir Traws Cambria rhwng Aberystwyth, Llambed a Chaerfyrddin wrth beidio â galw mewn cymunedau llai.

"Fe fydd y cymunedau llai hyn yn cael eu gwasanaethu gan Bwcabus."

Fe fyddai'r awdurdodau lleol yn cynnal ymghynghoriad am y newidiadau yn ystod y misoedd nesaf.

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus am newid gwasanaeth Traws Cambria a chyflwyno gwasanaeth Bwcabus yn Ysgol Gynradd Cribyn am 4pm, ddydd Iau, Tachwedd 17.

Ms Jones AC fydd yn cadeirio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol