Dileu ceblau yn Nhyddewi

Capel Santes Non Image copyright Other
Image caption Mae ardal Santes Non yn cael ei hystyried yn fan pwysig i ymwelwyr a phererinion

Bydd llinellau ffôn a cheblau ger capel hanesyddol yn Nhyddewi yn cael eu gosod dan y ddaear fel rhan o gynllun i adfer "mannau eiconaidd" yng Nghymru.

Fe fydd polion a llinellau ffôn ger Capel Santes Non yn cael eu symud yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae'r safle yn gartref i adfeilion hen gapel, ffynnon sanctaidd ac encilfa.

Y gred yw bod yr hen gapel yn sefyll ar y man lle cafodd Dewi Sant ei eni ac mae'r safle wedi'i enwi ar ôl mam Nawddsant Cymru.

Annerbyniol

Mae ardal Santes Non yn cael ei hystyried yn fan pwysig i ymwelwyr â phererinion.

Mae'r gwaith i wella'r tirwedd yn dilyn cynllun tebyg i symud ceblau a llinellau ffôn ger goleudy Pencaer rhwng Pwllderi ac Abergwaun.

Bydd y cynllun yn cael ei ariannu gan Western Power Distribution a BT Openreach.

Dywedodd adroddiad ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yr ardal yn denu nifer o ymwelwyr a bod nifer ohonynt yn meddwl bod presenoldeb y ceblau yn annerbyniol.

"Mae'r golygfeydd o gwmpas pentir Tyddewi yn cael eu hystyried yn rhai o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol," meddai'r adroddiad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.