Carcharu dyn am annog terfysg

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Counsel ei garcharu am bedair blynedd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am bedair blynedd ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o annog trais ar wefan Facebook wedi terfysgoedd yn Lloegr ym mis Awst.

Fe luniodd Jamie Counsel dudalen o'r enw 'Bring the Riots to Cardiff,' gan newid yr enw yn ddiweddarach i 'Bring the Riots to Swansea.'

Dywedodd y barnwr fod y ddedfryd yn rhybudd clir i unrhyw un fyddai'n ystyried annog trais o'r fath.

Yn ôl David Webster ar ran yr erlyniad, roedd Counsel wedi llunio'r dudalen ar Awst 9 yn ystod rhai o'r terfysgoedd mwyaf yn Lloegr ers cenhedlaeth.

Fe ledodd y terfysgoedd o Lundain i ddinasoedd eraill yn Lloegr, gan gynnwys Birmingham, Manceinion a Bryste.

Penodol

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Counsel wedi nodi amser a lleoliad penodol ar gyfer trais ar ei dudalen.

Roedd 36 o bobl wedi ymuno â'r safle, gan gynnwys un oedd yn cyfeirio at dargedu un o siopau mwyaf y Stryd Fawr.

"Rydyn ni'n taro Howells yn gyntaf," meddai'r neges ac roedd sylwadau eraill yn sôn am siop Comet.

Fe wnaeth 35 o bobl hefyd ymuno a'r dudalen ar ôl iddi gael ei galw'n "Bring the riots to Swansea."

Ar y dudalen roedd yna gyfeiriadau at derfysg a dwyn.

Cafodd Counsel ei arestio ar ôl i aelodau o'r cyhoedd gysylltu â'r heddlu. Fe'i arestiwyd am 5.40 ar Awst 10, tua'r adeg yr roedd wedi awgrymu y dylid achosi terfysg.

"Roedd hon yn fwy na siop siarad, roedd cyfeiriad at amser a dyddiad penodol er mwyn cwrdd," meddai'r erlynydd.

Clywodd y llys fod gan Counsel hanes o dor-cyfraith dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ymosodiad

Yn Awst 2007 roedd yn aelod o griw ymosododd ar ddau ddyn yng nghanol Caerdydd.

Cafodd un o'r dynion ei daro'n anymwybodol.

Ar y pryd fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd mewn Uned Troseddwyr Ifanc.

Ym Mehefin 2009 roedd yn euog o feddu ar gyllell wrth deithio mewn car.

Dywedodd Ruth Smith ar ran yr amddiffyniad fod Counsel yn derbyn mai ef oedd wedi llunio'r dudalen ac nad oedd wedi ceisio cuddio'r ffaith.

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio gwella ei fywyd, gan fynd i nifer o ddosbarthiadau addysgu.

Dywedodd ei fod yn cael ei gyfeirio ar gyfer triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl.

.