Milwyr yn derbyn rhyddfraint
- Cyhoeddwyd

Mae Bataliwn 1af Y Reifflau wedi gorymdeitho trwy Gasgwent ac wedi derbyn rhyddfraint y dref.
Fe gafodd y seremoni ei chynnal ger Castell Cas-gwent cyn i'r 500 o filwyr ddychwelyd i'w barics yn Sir Gaerloyw.
Yno cafodd medalau am wasanaethu yn Afghanistan eu cyflwyno iddynt.
Bu farw pum aelod o'r bataliwn yn ardal Nahr-e Saraj yn ne Helmand dros y chwe mis diwethaf.
Mae'r rhyddfraint, gafodd ei gyflwyno gan faer Cas-gwent Henry Hodges, yn rhoi hawl i'r bataliwn orymdeithio trwy Gas-gwent yn y dyfodol.
"Rydym yn estyn ein gwerthfawrogiad i'w teuluoedd a ffrindiau wrth i ni groesawu'r gatrawd adref pan fyddant yn gorymdeithio trwy ein strydoedd," meddai.
Dywedodd yr is gapten Cyrnol James de Labillière fod y gymuned leol yng Nghas-gwent wedi bod yn hael iawn wrth godi arian tuag at elusennau sy'n helpu milwyr sydd wedi eu hanafu.
"Mae Cas-gwent yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gefnogaeth o'n teuluoedd ac yn ddiweddar mae o wedi bod yn gyfryngol wrth godi cefnogaeth am ein hymdrechion yn Afghanistan.
"Yn wir, mae ein hapêl 'Swift and Bold' wedi codi £125,000 hyd yn hyn, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb haelioni pobl Cas-gwent a'r ardal.
Straeon perthnasol
- 24 Chwefror 2011