Awdurdod yn cynnig gofal dros y gaeaf i'r henoed
- Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorau Cymru yn cydweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn ceisio sicrhau bod pobl oedrannus y sir yn derbyn gofal dros y gaeaf.
Fel rhan o brosiect 'Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn' mae Cyngor Môn yn cydweithio gyda'r prif bartneriaid Age Cymru, yn ogystal â Chyngor i Bopeth, Medrwn Môn ac Age Cymru Gwynedd a Môn.
Dros yr wythnosau nesaf mi fydd taflenni a phosteri yn cael eu rhannu i bobl hŷn.
Fe fydd y taflenni a phosteri yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut i gadw'n gynnes ac yn iach ac mae 'na arddangosfeydd a gwybodaeth ar gael mewn rhai meddygfeydd ar yr ynys.
Mae'r wybodaeth yn cynnwys sut i ddelio gyda thywydd oer, gan gynnwys cyngor ar wresogi, gwisgo'n gynnes, bwyta'n dda, cael pigiad ffliw a chymorth ariannol.
"Mae'r gaeaf y medru bod yn amser anodd i bobl hŷn, ac rydym yn gwybod fod cadw'n gynnes, bwyta'n iach a chael pigiad ffliw yn medru gwneud gwahaniaeth mawr," meddai Brian Jones, Cydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn.
"Dyna pam yr ydym ni'n gweithio gydag Age Cymru a phartneriaid eraill er mwyn trosglwyddo'r neges bwysig yma."
Fel rhan o'r ymgyrch, mae staff y cyngor sy'n gweithio gyda phobl hŷn yn rheolaidd, partneriaid a gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant gan NEA Cymru ar wneud cartrefi'n fwy cynnes ac yn fwy iach i fyw ynddyn nhw.
"Gyda chostau tanwydd yn cynyddu, mae'n bwysig ein bod ni'n medru cynnig cyngor a gwybodaeth ar y camau y gallai rhywun gymryd i geisio arbed arian, newid cyflenwr trydan ac ar gyfer cymryd camau i wella effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi," ychwanegodd Mr Jones.