Arbenigwr pryfed Amgueddfa Cymru yn hedfan i Chile
- Cyhoeddwyd

Bydd arbenigwr pryfed o Gymru yn ymweld â Chile am dair wythnos er mwyn deall mwy am fioamrywiaeth y byd.
Amgueddfa Cymru sy'n gwneud gwaith ymchwil i fioamrywiaeth Cymru.
Ond dywedodd yr entomolegydd ac arbenigwr pryfed adran hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Dr Adrian Plant, bod angen deall bioamrywiaeth yn y byd yn well cyn deall bioamrywiaeth Cymru yn llawn.
Fe fydd Dr Plant yn treulio tair wythnos yn ardal Patagonia Chile gan ymuno â thîm o gyfoedion o'r Muséum National d'Histoire Naturelle yn Ffrainc sy'n rhan o Raglen CAFOTROP (CAnopée des FOrêts TROPicales).
Eu gwaith yw archwilio fforestydd trofannol anferth Hemisffer y De gan chwilio'n arbennig am bryfed sydd wedi goroesi ers cyfnod pan oedd De America, Affrica, Awstralia ac Antartica yn un cyfandir deheuol anferth o'r enw Gondwana, tua 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Sialens
Bydd gosod y pryfed hynafol yma mewn trefn esblygiad a'u cymharu ag ymraniad Gondwana a symudiad y cyfandiroedd i'w lleoliadau presennol yn gymorth i'r gwyddonwyr ddeall patrymau bioamrywiaeth heddiw yn well.
Bydd y tîm yn teithio ar longau a thros y tir mewn cerbydau 4X4, gan archwilio nifer o fforestydd anghysbell ar gyrion deheuol y Carretera Austral rhwng Puerto Montt a Coihaique yn Ardal y Llynnoedd Chile.
Dywedodd Dr Plant y bydd y daith yn sialens.
"Ond mae'n fy nghyffroi yn fawr.
"Yn ogystal â medru rhoi o'm profiad fy hun yn Chile, bydd y profiad o fudd i'r Amgueddfa.
"Bydd yr hyn a ddysgwn yn Chile yn gwella'n dealltwriaeth o gyflwr bioamrywiaeth yng Nghymru.
"Gellir defnyddio'r pryfed yma i fodelu cyfres o ddigwyddiadau esblygol a bio-ddaearyddol fydd yn galluogi ymchwilwyr i ateb rhai cwestiynau; pam fod anifeiliaid i'w gweld mewn rhai llefydd ac nid mewn llefydd eraill; pam fod bioamrywiaeth yn ffynnu mewn rhai mannau; sut effeithiodd newid hinsawdd yn y gorffennol ar yr amrywiaeth bywyd ar y ddaear heddiw?"
Bydd arbenigwyr eraill ar bryfed, chwilod planhigion a phryfed mân yn rhan o'r criw yn ogystal â dringwr coed proffesiynol fydd yn galluogi'r ymchwilwyr i weithio'n ddiogel yn uchelfannau claear a chyfoethog canopïau coedwigoedd trofannol y rhanbarth.