Teyrngedau i drefnydd Apêl y Pabi

Nigel Dyer (de) yn ystod gorymdaith Diwrnod y Cofio y llynedd Image copyright Other
Image caption Nigel Dyer (de) yn ystod gorymdaith Diwrnod y Cofio y llynedd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i drefnydd Apêl y Pabi a fu farw yn ystod gorymdaith Diwrnod y Cofio yn Aberystwyth.

Bu farw Nigel Dyer, oedd yn 80 oed, wrth i fwy na 100 o bobl orymdeithio i osod torchau ger cofeb y dref ddydd Sul.

Dywedodd Iori Lewis, Llywydd y Lleng Brydeinig yn Aberystwyth, fod Mr Dyer yn "em o ddyn fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".

Y gred yw bod Mr Dyer wedi cael trawiad ar y galon.

Ef oedd cydlynydd Apêl y Pabi yng Ngheredigion.

Roedd Mr Dyer yn hanu o Benarth ym Mro Morgannwg ac fe fu'n gapten yn uned diriogaethol Cyffinwyr De Cymru a bu'n gweithio i gwmni Shell am 33 mlynedd.

Dywedodd Mr Lewis ei fod wedi adnabod Mr Dyer am 61 mlynedd.

"Roedd e'n ddyn hyfryd, does dim dwywaith amdani," meddai Mr Lewis.

"Roedd e'n ddyn bonheddig gyda synnwyr digrifwch gwych.

"Roedd e'n em o ddyn fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un."

Roedd Mr Dyer wedi ennill medal Tlws Tiriogaethol am ei waith i'r Fyddin Tiriogaethol.

Dywedodd ysgrifennydd a thrysorydd cangen Aberystwyth y Lleng Brydeinig fod Mr Dyer yn "ymrwymedig iawn" i Apêl y Pabi.

Bydd teyrngedau yn cael eu rhoi i Mr Dyer yn ystod cyfarfod cangen Aberystwyth o'r Lleng Brydeinig nos Iau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.