Hwb i ddyfodol cwrs rasio Ffos Las

Cwrs Rasio Ffos Las Image copyright Getty Images
Image caption Ffos Las oedd y cwrs rasio newydd cyntaf ym Mhrydain am 70 mlynedd pan agorodd yn 2009

Daeth hwb i ddyfodol cwrs rasio ceffylau Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin gyda chyhoeddiad gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain.

Cyhoeddodd yr awdurdod y bydd Ffos Las yn cael cynnal 26 o ddyddiau rasio y flwyddyn nesaf.

Er bod hynny dri diwrnod yn llai na 2011, roedd pryder y gallai'r nifer ddisgyn i 16, gan beryglu dyfodol cwrs rasio newydd cyntaf Prydain ers 70 o flynyddoedd.

Roedd Cadeirydd Ffos Las, Dai Walters, wedi dweud y byddai cael dim ond 16 diwrnod o rasio yn peryglu'r cwrs yn ariannol.

'Gwasgariad'

Mae rheolwyr Ffos Las wedi dweud eu bod yn fodlon gyda'r 26 diwrnod, ac yn hapus hefyd gyda chynnydd i chwech o ddyddiau rasio ar y Sul.

Mae'r diwydiant rasio ceffylau yn gorfod torri'r gôt yn ôl y brethyn yn ystod cyfnod ariannol anodd.

Dywedodd Tim Long, Rheolwr a Chlerc Ffos Las: "Mae gennym 16 o ddyddiau rasio y flwyddyn nesaf ynghyd a naw niwrnod yr ydym yn ariannu ein hunain lle nad oes cyfraniad o gronfa ganolog rasio, a'r rasio Dydd San Steffan.

"Rydym wrth ein boddau gyda gwasgariad y rasio - mis Hydref yw'r unig fis lle does gennym ond un diwrnod o rasio, ac mae saith yn ystod Gorffennaf ac Awst.

"Mae cael cynnydd yn nifer y dyddiau Sul yn newyddion gwych gan mai dyna pryd y mae teuluoedd yn medru dod i fwynhau diwrnod fforddiadwy yn gweld y rasio."

Uchafbwynt

Mae pobl o fewn y gamp wedi dweud eu bod yn mwynhau Ffos Las oherwydd safon y trac a'r adnoddau i ymwelwyr.

Uchafbwynt y flwyddyn nesaf fydd Pencampwriaeth William Hill Cymru dros y clwydi ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Chwefror, a hefyd Mehefin 5, sef cyfnod dathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Rasus 2012 yn Ffos Las :

Ionawr 11 (Mercher) a 29 (Sul);

Chwefror 4 (Sadwrn) a 19 (Sul);

Mawrth 17 (Sadwrn) a 29 (Iau);

Ebrill 15 (Sul) a 23 (Llun gyda'r nos);

Mai 9 (Mercher gyda'r nos) a 31 (Iau);

Mehefin 5 (Mawrth Gŵyl y Banc) a 21 (Iau gyda'r nos);

Yr uchod i gyd yn rasus dros y clwydi yn unig.

Gorffennaf 2 (Llun gyda'r nos), 17 (Mawrth) a 24 (Mawrth) - rasio fflat;

Awst 2 (Iau gyda'r nos), 13 (Llun) - rasio fflat;

Awst 23 (Iau) dros y clwydi a 24 (Gwener) yn gymysg dros y clwydi a fflat;

Medi 3 (Llun) a 16 (Sul) - rasio fflat;

Hydref 14 (Sul) - dros y clwydi;

Tachwedd 11 (Sul) a 23 (Gwener) - dros y clwydi;

Rhagfyr 17 (Llun) a 26 (Mercher) - dros y clwydi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.